Y Gemau Olympaidd: Pobl yn 'grac iawn' yn Tokyo
Y Gemau Olympaidd: Pobl yn 'grac iawn' yn Tokyo
Tri diwrnod cyn seremoni agoriadol Gemau Olympaidd Tokyo, mae'r achosion cyntaf o Covid-19 wedi eu cadarnhau ymhlith cystadleuwyr ym mhentref yr athletwyr.
Mae dau aelod o dîm pêl-droed de Affrica ac un hyfforddwr, ynghyd ag aelod o dîm pêl-foli’r weriniaeth Tsiec wedi profi'n bositif.
Ar ôl dod i gysylltiad ag achos arall, mae chwe athletwr a dau hyfforddwr o dîm Prydain hefyd yn hunan-ynysu.
'Grac iawn'
"Mae llawer o bobl yn teimlo yn erbyn y Gemau Olympaidd," meddai Takeshi Koike, darlithydd ym Mhrifysgol Daito Bunka yn Tokyo wrth Newyddion S4C.
"Mae llawer o gyngherddau wedi eu canslo achos o Covid, ac mae'r llywodraeth wedi dweud na all tai bwyta a siopau agor ar ôl wyth o'r gloch yn y nos.
"Allwn ni ddim gwneud busnes, felly pam bod y Gemau Olympaidd yn bosib?
"Mae llawer o demonstrations yn erbyn yn digwydd yn Tokyo ar hyn o bryd.
"Mae llawer iawn o bobl yn teimlo'n grac iawn."
Yn ôl y trefnwyr ychydig dros 60 o achosion positif sy'n gysylltiedig â'r gemau - hynny yn cynnwys athletwyr, aelodau'r wasg a chontractwyr.
Y tu hwnt i'r gemau mae nifer yr achosion yn ninas Tokyo ar gynnydd gyda dros fil o achosion newydd bob dydd dros y pedwar diwrnod diwethaf.
Gobaith y trefnwyr yw y bydd unrhyw amheuon neu wrthwynebiad yn tawelu wrth i'r cystadlu ddechrau, ond mae un o’r noddwyr, Toyota, eisoes wedi dweud na fydd y cwmni yn anfon cynrychiolwyr i'r seremoni agoriadol nos Wener.