Newyddion S4C

Pryder bydd cŵn yn orbryderus wrth i ganllawiau Covid-19 lacio

20/07/2021

Pryder bydd cŵn yn orbryderus wrth i ganllawiau Covid-19 lacio

Mae elusennau a sefydliadau lles anifeiliaid yn pryderu bydd cŵn, a gafodd eu prynu yn ystod cyfnod clo Covid-19, yn orbryderus wrth i’w perchnogion fynd yn ôl i fywyd cyn y pandemig.  

Yn ôl Trysorydd cangen gorllewin Gwynedd RSPCA, Alun Rees, mae angen i berchnogion gychwyn ystyried ac ymchwilio ar sut i ofalu am eu cŵn wrth i gyfyngiadau lacio yng Nghymru.

Mae Alun Rees yn argoeli bydd mwy o gŵn yn treulio mwy o amser ar ben eu hunain wrth i berchnogion adael y tŷ yn fwy aml – profiad nad ydyn nhw wedi’u hwynebu yn sgil y pandemig hyd yma.

“Bydd llawer o’r cŵn wedi treulio amser yng nghwmni plant sydd ddim wedi bod yn yr ysgol neu oedolion a oedd yn gweithio o adref neu ar ffyrlo,” eglurodd.

“Bydd plant yn dychwelyd i’r ysgol a mwy o oedolion yn mynd yn ôl i’w gwaith ac felly’n gadael y cŵn gartref ar ben eu hunain.

“O ganlyniad, fydd cŵn yn cyfarth neu’n udo, efallai’n malu neu dinistro dodrefn yn y tŷ, neu’n cael eu gadael mewn cewyll am amser hir.

“Fe all y cŵn yma droi’n ymosodol o fewn amser.”

‘Roedd e’n dechre’ cnoi pethe’ yn y cartref’

Fe brynodd Niamh Monaghan ei chi, Leo, blwyddyn yn ôl.  

Ond wrth iddi baratoi at ddychwelyd i’r gweithle, roedd ei chi wedi datblygu gorbryder.

“Oedd e’n iawn i ddechrau,” dywedodd wrth Newyddion S4C. 

“Ond ers byw gyda fi a dwi’n dechrau gweithio, rwyf fi methu gadael e ar ben ei hunain.

“Roedd e’n dechre’ cnoi pethe’ yn y cartref.”

Image
Leo y ci

Erbyn hyn, mae Niamh Monaghan wedi hyfforddi Leo, ac mae ymddygiad y ci wedi gwella.

“Fi wedi dechre’ trainio fe i aros mewn cage pryd fi’n gadael y tŷ i fynd i siopa neu mynd i’r gym,” eglurodd.

“I ddechre’, roedd rhaid i mi bigo fe lan a rhoi e yn y cage, ond nawr os fi’n dweud ‘mewn’ – mae’n mynd mewn.

“Fi’n lwcus hefyd, dwi’n byw ar fferm fy mam-gu a tad-cu, felly mae teulu yn gallu mynd a fe mas yn y dydd am egwyl.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.