Newyddion S4C

Ffermwr o Gymru yn torri record Brydeinig am gneifio

Huw Jones yn ennill gwobr cneifio

Mae ffermwr o Gymru wedi torri record Brydeinig am gneifio.

Fe lwyddodd Huw Jones, 27 oed o Abergynolwyn ger Tywyn yng Ngwynedd, i gneifio 663 o ddefaid mewn wyth awr. 

Y record flaenorol oedd 539 o ddefaid mewn wyth awr gan Martin Howlett.

Fe ddechreuodd Huw ei ymgais ym Machynlleth am 07.00, gan orffen am 17.00.

Wrth siarad gyda'r Post Prynhawn ar BBC Radio Cymru, dywedodd fod hyn wedi bod yn uchelgais iddo ers peth amser.

"Odd o'n rhywbeth nes i feddwl am blynyddoedd yn ôl rili, pan o'n i yn gweld cneifwyr o'n i yn edrych fyny ar yn neud records a petha," meddai.

"O'n i'n meddwl wrth fy hun, 'O fyswn i yn licio neud hynna ryw ddiwrnod os fydda i yn gallu bod ddigon da i neud o' a jest gweithio tuag at hynna a neud o 'leni."

Yn ôl gwefan British Wool, mae Huw fel arfer yn treulio chwe mis o'r flwyddyn rhwng Prydain a Seland Newydd yn cneifio. 

Ffermio gyda'i frawd ar y fferm deuluol mae'n gwneud gweddill y flwyddyn. 

Image
Huw Jones

Ym mis Ebrill, mae Huw fel arfer yn cneifio yn Lloegr cyn dychwelyd i Gymru ddiwedd Mai. 

Mae wedi bod yn gwneud y gwaith ers blynyddoedd gyda'i ffrind Gwydion o gwmpas ffermydd lleol.

Ddwy flynedd yn ôl fe lwyddodd i gneifio 554 o ddefaid yn Seland Newydd, ond roedd o eisiau medru gwneud mwy.

Dywedodd wrth y Post Prynhawn ei fod wedi bod yn paratoi ers diwedd Medi ar gyfer ceisio torri'r record, gan fynd ar ddeiet ym mis Chwefror.

Roedd hefyd angen meddwl am y defaid eu hunain, meddai.

"Mae 'na waith pigo'r defaid. Nes i holi lot o ffermwyr dros flwyddyn yn ôl amdan defaid a rhai yn methu neud achos wahanol pethau a jest goro ffindio mwy o ddefaid o wahanol ffermydd a petha yn nes at yr amser."

'Dipyn o boen'

Yn y gorffennol mae Huw wedi ennill ysgoloriaeth cneifio er cof am Louise Owen, ac ennill Pencampwriaeth Hyn Cneifio Corwen.

Doedd yna ddim rheol o safbwynt maint y ddafad ar gyfer y record, er bod amrywiaeth mawr yn medru bod rhwng un math o frîd a'r llall. 

Ond dywedodd bod yna reolau ynglŷn â phwysau'r gwlân.

"Mae'n rhaid i'r gwlân bwyso o leiaf 2.2 kilos bob dafad o gwlân," meddai.

"So diwrnod cyn y record mae'r beirniad yn dod yna, 'da chi gorfod cneifio, maen nhw yn dewis 10 allan yn random ac wedyn ma rhywun yn cneifio nhw a checio bod y pwysa gwlân yna," meddai wrth y Post Prynhawn. "Os di hwnna yn iawn, ti'n barod i fynd."

Wnaeth o ddim ystyried rhoi'r gorau iddi yn ystod yr her, meddai, ond doedd hi ddim yn hawdd.

"Oedd yna adegau anodd, anodd iawn deud y gwir, dipyn o boen, poen cefn," meddai.

"Dwi byth yn cael poen cefn pan dwi  yn cneifio ond darn cyntaf o'r diwrnod nath cefn fi ddechrau brifo."

Er bod ei gorff wedi bod yn stiff, dywedodd ei fod yn "dipyn gwell" erbyn hyn. 

Lluniau: British Wool

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.