
Ystyried gorchymyn gorfodi i ddod â llwybr yr arfordir yn agosach at y lan ger Cricieth
Bydd Cyngor Gwynedd yn ystyried gorchymyn gorfodi cyfreithiol i greu llwybr cyhoeddus sy'n croesi tiroedd ffermydd ar gyrion Cricieth.
Mae'r cyngor wedi cyflwyno cais i greu llwybr newydd 2.63km o hyd yn ardal Llanystumdwy er mwyn dod â Llwybr Arfordir Cymru yn agosach at y lan.
Ar hyn o bryd mae'r llwybr wedi'i ddargyfeirio i ffwrdd o'r arfordir ac yn dilyn y palmant am 5.3km ar hyd ffordd yr A4987.
Byddai'r llwybr newydd yn rhedeg ar ochr y tir o'r rheilffordd o amgylch Fferm Afonwen a Fferm Glanllynnau, cyn mynd yn ei flaen o dan y rheilffordd i Dŷ’n Morfa ger Chwilog.
Os bydd y cyngor yn penderfynu bod angen y cynllun a bod y gorchymyn yn cael ei gymeradwyo, byddai'n "sicrhau hawliau cyfreithiol" i'r cyhoedd gael mynediad ar droed i'r ardal rhwng Afonwen a rhwydwaith o lwybrau o amgylch Tŷ’n Morfa.
Dywedodd y cyngor eu bod wedi methu â sicrhau cytundeb gyda pherchnogion y tir hyd yma.
Felly, mae'n rhaid iddyn nhw nawr ystyried cyflwyno Gorchymyn Creu Llwybr, o dan adran 26 o Ddeddf Priffyrdd 1980.

Yn ôl yr adroddiad cynllunio byddai'r llwybr newydd yn cynnig "gwelliant mawr i Lwybr yr Arfordir yn yr ardal".
Mae llwybr arfordirol Gwynedd yn 180 milltir o hyd ac yn rhan o brosiect Llwybr Arfordir Cymru, sy'n 870 milltir o hyd.
Mae cefnogaeth i'r cynllun gan y Cyngor Cymuned, Cyfoeth Naturiol Cymru, a'r aelod lleol, y Cynghorydd Rhys Tudor.
Dywedodd y Cynghorydd Tudor ei fod yn "gam ymlaen" a byddai'n cael y llwybr "i ffwrdd o'r briffordd ac yn agosach at yr arfordir".
Mae'r adroddiad cynllunio yn dweud: "Byddai creu llwybr troed di-dor sy'n dilyn yr arfordir yn ychwanegu'n sylweddol at safon Llwybr yr Arfordir yng Ngwynedd ac yn welliant mawr ar y llwybr bresennol sy'n rhedeg yn gyfochrog â ffordd brysur yr A4987, sy'n ddargyfeiriad byr ond sylweddol o'r arfordir."
Ychwanegodd: "Bydd y llwybr yn adnodd i gymunedau o fewn yr ardal leol, gan gynnwys Pwllheli, Abererch, Chwilog, Llanystumdwy, Cricieth, yn ogystal â'r ardal ehangach ym Mhen Llŷn, Eifionydd ac ar draws Gwynedd."
Bydd y cyngor yn trafod y cynllun yn ei gyfarfod cynllunio ddydd Llun, 14 Gorffennaf.