Honiadau am y 'maffia ieithyddol' yn elfen o ganlyniad pleidlais datganoli 1997
Roedd dadleuon gwrthwynebwyr sefydlu datganoli am y Gymraeg yn elfen o'r canlyniad agos i'r refferendwm ar sefydlu Cynulliad i Gymru yn 1997, yn ôl dogfen sydd wedi ei rhyddhau.
Fe gafwyd buddugoliaeth o drwch blewyn i'r ymgyrch o blaid datganoli yn y refferendwm, gyda mwyafrif o 50.3%.
Yn dilyn y fuddugoliaeth fe wnaeth swyddogion o lywodraeth Llafur Tony Blair ysgrifennu dogfen er mwyn ceisio pwyso a mesur pam fod y canlyniad mor agos.
Dywed y ddogfen, sydd wedi ei rhyddhau gan yr Archif Genedlaethol yn Kew, fod nifer o resymau'n gyfrifol am y canlyniad agos, medd North Wales Live.
Ymysg y rhesymau oedd "diffyg cyfeiriad gwleidyddol eglur", a methiant yr ymgyrch i ddadlau yn erbyn honiad gwrthwynebwyr datganoli y byddai gorfodaeth ar bobl i siarad Cymraeg petai datganoli'n cael ei sefydlu.
Roedd y syniad y byddai datganoli'n creu nepotistiaeth a "swyddi i ffrindiau" hefyd yn elfen o pa mor agos oedd y canlyniad medd y ddogfen.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Llywodraeth Cymru