Rhybudd cyhoeddus am Storm Darragh wedi canu ar ffonau symudol
Mae rhybudd cyhoeddus wedi ei anfon i ffonau symudol pobl ar draws Cymru i'w rhybuddio am beryglon Storm Darragh.
Mae oddeutu tair miliwn o bobl ar draws Cymru a de Lloegr wedi derbyn y rhybudd.
Daw wedi i’r Swyddfa Dywydd gyhoeddi rhybudd coch prin "perygl i fywyd" yng Nghymru ddydd Sadwrn.
Dyma'r defnydd mwyaf o'r system rhybudd hyd yma, gyda'r neges yn cael ei anfon i ffonau symudol pobl sydd yn byw yn yr ardaloedd ble y bydd rhybudd tywydd coch mewn grym.
Fe wnaeth y rhybudd achosi i ffonau symudol greu sŵn uchel fel seiren, gan bara am 10 eiliad.
Mae rhybuddion coch ac oren mewn grym ddydd Sadwrn am wyntoedd cryfion, tra bod yna rybuddion oren a melyn am law trwm.
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio fod "perygl i fywyd" yn sgil yr amodau – darllenwch fwy am beth mae’r rhybuddion yn eu golygu yma.
Inline Tweet: https://twitter.com/PrifWeinidog/status/1865098929349505102
