'Clefyd cardiofasgwlaidd yn parhau yn argyfwng cynyddol yng Nghymru'

Newyddion S4C

'Clefyd cardiofasgwlaidd yn parhau yn argyfwng cynyddol yng Nghymru'

Mae clefyd cardiofasgwlaidd yn parhau yn "argyfwng cynyddol" yng Nghymru, er y gwelliannau meddygol, yn ôl elusen.

Mae Sefydliad y Galon Cymru yn amcangyfrif bod y clefyd yn lladd bron i 10,000 o bobol y flwyddyn yma - chwarter yr holl farwolaethau.

Clefyd cardiofasgwlaidd ydi'r term sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer cyflyrau sy'n effeithio ar y galon, neu wythiennau gwaed, gan gynnwys trawiad ar y galon neu strôc.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod ganddi nifer o bolisïau sy'n anelu at leihau risg pobl o ddatblygu clefyd y galon.

Mae'r elusen wedi cyhoeddi ymgyrch yn galw ar bleidiau gwleidyddol Cymru i leihau nifer y marwolaethau sy'n gynt na'r disgwyl o'r clefyd,  25% dros y ddegawd nesaf.

Cyn etholiad y Senedd ym mis Mai 2026, maen nhw'n dweud y dylai'r clefyd gael "lle amlwg" ar yr agenda wleidyddol.

Mae nifer o bethau yn gallu cynyddu'r risg o gael y clefyd, gan gynnwys pwysau gwaed uchel, diabetes, gordewdra ac ysmygu.

'Y profiad gwaethaf'

Cafodd Carl Schulze, 65, o Lanberis yng Ngwynedd, sawl trawiad ar y galon flynyddoedd yn ôl.

Ym mis Mai 2022, cafodd lawdriniaeth i gael falf newydd ar ei galon.

Roedd mewn coma am dros wythnos ac yn ystod y cyfnod, cafodd sawl strôc.

Mae wedi ei baralysu bron yn llwyr a bellach angen gofal 24 awr yn ei gartref.

Dywedodd ei ferch, Tesni, 27, mai dyma’r profiad “gwaethaf” iddyn nhw fel teulu.

Image
Tesni Schulze
Dywedodd Tesni Schulze ei bod yn galaru am ei thad bob dydd

“Dim ond yn 'i fraich dde mae ganddo fo symudiad,” meddai.

“Mae o’n gallu troi 'i ben ond ti’n gorfod atgoffa fo i sbio i’r chwith…gan fod 'na beth du o flaen 'i lygad oer i fod o’n gallu gweld yr ymennydd ydi hwnna.

 “Dydi o methu symud, dydi o methu cerdded, eistedd wrth ochr y gwely… mae o’n gorfod cael gofal 24 awr.”

 Dywedodd bod y sefyllfa yn anodd ac yn “testio rhywun yn ddyddiol”. 

 Ychwanegodd: “Dwi’n galaru amdano fo bob dydd, dydi o ddim yn peidio croesi meddwl fi.” 

Image
 Bethan Edwards
Bethan Edwards o Sefydliad y Galon Cymru

Dywedodd Bethan Edwards, pennaeth polisi a materion cyhoeddus Sefydliad y Galon Cymru: "Da' ni wedi gweld gwelliannau meddygol ers yr 1960au ynglŷn â chlefyd cardiofasgwlar ond 'da ni'n gweld bod argyfwng cynyddol yng Nghymru gyda'r clefyd."

 Mae'r elusen yn amcangyfrif bod tua 400,000 o bobol Cymru yn byw gyda'r clefyd ar hyn o bryd.

 "Mae'n her gymhleth," ychwanegodd. 

 "Da ni'n gweld bod y boblogaeth yng Nghymru yn cynyddu ac yn heneiddio ac mae mwy o bobol yn goroesi gyda cardiac arrest a thrawiad ar y galon, felly mae pobol yn byw gyda'r clefyd cardio fasgwlar yn hirach."

 Yn ôl yr elusen, yn 2024 roedd cyfradd y marwolaethau o'r clefyd 17% yn uwch yng Nghymru na Lloegr.

Maen nhw hefyd yn honni bod y tebygrwydd o oroesi ataliad ar y galon tu allan yr ysbyty yng Nghymru yn 1 mewn 20 o bobol, o'i gymharu â 1 mewn 10 yn Lloegr a'r Alban.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod ganddi “nifer o bolisïau” sy'n anelu at leihau risg pobl o ddatblygu clefyd y galon.

 “Mae hyn yn cynnwys helpu pobl i fyw bywydau iachach a rheoli cyflyrau fel pwysedd gwaed uchel,” ychwanegodd.

 “Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd wedi cyhoeddi Cynllun Atal Clefyd Cardiofasgwlaidd i helpu'r GIG i wella atal a rheoli'r risgiau sy'n gysylltiedig â chlefydau cardiofasgwlaidd.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.