Trên wedi taro coeden rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog
Mae trên wedi taro coeden a oedd wedi disgyn ar draws y cledrau yn Sir Conwy nos Fawrth.
Mae gwasanaethau trenau rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog wedi cael eu canslo o ganlyniad.
Dywedodd Trafnidiaeth Cymru fod y gwasanaeth 16.12 o Gyffordd Llandudno wedi taro coeden ger Glan Conwy.
Roedd 17 o deithwyr ar y trên ar y pryd, meddai'r cwmni. Nid yw'n hysbys eto a gafodd unrhyw un ei anafu.
Erbyn hyn mae staff Network Rail wrthi yn symud y goeden, ond bydd y llinell ar gau am weddill y dydd.
Mae gwasanaeth bws bellach yn gweithredu rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog am y tro.
Daw'r digwyddiad wrth i Storm Bram ddod â gwynt a glaw trwm i Gymru nos Fawrth.
Llun stoc gan Wikipedia
