Cyhoeddi rhybudd coch 'perygl i fywyd' ar gyfer rhannau o Gymru

06/12/2024

Cyhoeddi rhybudd coch 'perygl i fywyd' ar gyfer rhannau o Gymru

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd coch prin "pergyl i fywyd" yng Nghymru ddydd Sadwrn. 

Fe fydd y rhybudd am wyntoedd cryfion mewn grym rhwng 03:00 a 11:00. 

Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio fod disgwyl i wyntoedd cryfion Storm Darragh achosi aflonyddwch sylweddol a pheri risg i fywyd – darllenwch fwy am beth mae’r rhybuddion yn eu golygu yma.

Mae posibilrwydd i wasanaethau rheilffyrdd, awyr a fferi gael eu heffeithio. 

Gall rhai adeiladau wynebu difrod hefyd yn sgil y tywydd, gyda rhai cartrefi a busnesau yn profi llifogydd o bosib.

Mae'n bosib hefyd y bydd y tywydd yn effeithio ar gyflenwadau trydan. 

Yn seiliedig ar y rhagolygon diweddaraf, mae Traffig Cymru yn dweud y bydd Pont Britannia yn “cau i bob cerbyd” oherwydd “gwyntoedd cryfion iawn” ddydd Sadwrn. 

Fe fydd Pont Britannia yn cau am 02.00 nes i’r gwyntoedd tawelu am tua 12.00, medden nhw. Bydd gwyriad ar yr A5, Pont y Borth. 

Mae nhw hefyd wedi dweud y bydd traphontydd Dyfrdwy A5 Ceiriog a A483 Dyfrdwy yn cau rhwng 06:00 a 15:00 ddydd Sadwrn oherwydd gwyntoedd cryfion. 

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi fod pob gêm wedi'i gohirio ddydd Sadwrn yn sgil y tywydd. 
 
Mae CPD Dinas Caerdydd wedi gohirio'r gêm yn erbyn Watford a CPD Casnewydd wedi gohirio eu gêm nhw yn erbyn Carlisle United ddydd Sadwrn.
 
Cyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru y bydd yr holl gemau cymunedol ar draws bob oedran yn cael eu gohirio ddydd Sadwrn.
 
'Hanfodol'
 
Mae Dirprwy Brif Weinidog Llywodraeth Cymru, Huw Irranca-Davies yn rhybuddio y gallai effeithiau'r storm fod yn arwyddocaol iawn ac yn annog pobl i fod yn neilltuol o ofalus y penwythnos hwn.
 
"Mae rhybuddion coch yn cael eu cyhoeddi pan fydd bygythiad posib i fywyd, ac felly mae'n hanfodol bod pobl yng Nghymru yn gwrando ar y rhybuddion ac yn cymryd gofal mawr iawn os ydyn nhw'n teithio ddydd Sadwrn. 
 
"Mae awdurdodau lleol, gwasanaethau brys a Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhoi eu trefniadau parodrwydd ar waith, yn barod ar gyfer Storm Darragh. Rwy'n annog pawb i wneud yn siŵr eu bod yn gwybod pa lefel o rybudd sydd ar waith yn eu hardal ac i ddilyn yr holl gyngor swyddogol.
 
"Byddwn yn monitro'r sefyllfa'n ofalus ac yn rhoi unrhyw gymorth sydd ei angen i'r asiantaethau gyda'u hymateb".
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi nifer o rybuddion llifogydd ddydd Gwener, gan gynnwys pum rhybudd angen gweithredu ar frys a 31 rhybudd byddwch yn barod.
 

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cynghori teithwyr i wirio trefniadau cyn teithio dros y diwrnodau nesaf.

Bydd y rhybudd coch yn effeithio ar y siroedd canlynol:

  • Ynys Môn
  • Gwynedd
  • Conwy
  • Sir Benfro
  • Abertawe
  • Caerdydd
  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Sir Gaerfyrddin
  • Ceredigion
  • Mynwy
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Casnewydd
  • Bro Morgannwg

Bu'n rhaid cau nifer o ffyrdd nos Iau, gan gynnwys yr A470 rhwng Betws-y-Coed a Phentrefoelas a’r A525 rhwng Trefnant a Dinbych, Ffordd Santes Helen tuag at y twnnel yng Nghaernarfon a Phont Hafren.

Mae’r Swyddfa Dywydd eisoes wedi cyhoeddi y bydd rhybudd oren am wyntoedd cryfion yn dod i rym i'r rhan helaeth o Gymru ddydd Sadwrn. 

Bydd y rhybudd yn weithredol rhwng 01:00 a 21:00 ddydd Sadwrn ac yn effeithio ar y siroedd canlynol:

  • Blaenau Gwent
  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Caerffili
  • Caerdydd
  • Sir Gâr
  • Ceredigion
  • Conwy
  • Sir Ddinbych
  • Sir y Fflint
  • Gwynedd
  • Ynys Môn
  • Merthyr Tudful
  • Sir Fynwy
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Casnewydd
  • Sir Benfro
  • Powys
  • Rhondda Cynon Taf
  • Abertawe
  • Torfaen
  • Bro Morgannwg
  • Wrecsam

Daw hyn wedi i'r Swyddfa Dywydd gyhoeddi rhybudd melyn am law trwm ar gyfer rhan helaeth o Gymru.

Mae’r rhybudd melyn mewn grym rhwng 15:00 ddydd Gwener a 12:00 ddydd Sadwrn.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.