Storm Darragh: Beth mae rhybudd coch yn ei olygu?

06/12/2024
storm isha porthcawl.png

Mae rhybudd coch am wyntoedd cryfion “peryglus” wedi ei gyhoeddi ar gyfer rhannau helaeth o Gymru ar gyfer bore Sadwrn.

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi’r rhybudd prin hwn ar gyfer rhannau arfordirol o Gymru, mewn 13 sir, sydd wedi eu rhestru isod.

Bydd y rhybudd yn dod i rym yn ystod oriau man bore Sadwrn am 03.00, ac yn dod i ben am 11.00.

Beth yw’r rhagolygon tywydd?

Yn syml, gwyntoedd eithriadol o gryf a glaw trwm drwy’r dydd.

Mae cyfnod o “wyntoedd hynod o gryf” yn debygol yn ystod oriau man bore Sadwrn wrth i Storm Darragh symud ar draws Môr Iwerddon.

Bydd hyrddiadau o 90 milltir yr awr neu fwy yn bosib mewn ardaloedd arfordirol a bryniau gorllewin a de Cymru.

Fe fydd y gwyntoedd cryfaf yn pylio rhywfaint erbyn diwedd y bore, ond fe fydd yn parhau yn wyntog iawn, gyda rhybudd oren mewn grym tan 21.00.

Fe allai hyrddiadau o hyd at 70-80mya barhau hyd ddiwedd cyfnod y rhybudd.

Mae disgwyl glaw trwm ym mhob cwr o Gymru ddydd Sadwrn yn ogystal, gyda rhybuddion oren a melyn am law hefyd mewn grym ar draws Cymru.

Fe allai hyn arwain at lifogydd ac achosi trafferthion ar y ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus.

Beth mae rhybudd coch yn ei olygu?

Mae’r rhybudd coch yn “debygol iawn” o beri risg i fywyd, yn ôl y Swyddfa Dywydd.

Mae’r storm hefyd yn debygol o achosi difrod i eiddo a thoeau tai, gyflenwadau ynni ac isadeiledd, ac achosi “trafferthion sylweddol i’r rhai sydd yn teithio”.

Mae’r Swyddfa Dywydd hefyd yn rhybuddio y gallai fod yna donnau “mawr iawn” ar draethau, tra bod yna beryg y gallai coed a pholion trydan gwympo.

Maent yn cynghori pobl i “weithredu er mwyn gwarchod eich hunain ac eraill rhag “effeithiau difrifol” y storm.

Mae’r glaw yn debygol iawn o achosi llifogydd mewn tai a busnesau yn ardal dde ddwyrain Cymru, ble mae’r rhybudd oren yn weithredol.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd bod yna risg o orlifo ar draws Gymru yn ogystal, ble mae rhybudd melyn mewn grym.

Beth ddyliwn ei wneud?

Mae’r Swyddfa Dywydd yn cynghori pobl i beidio â theithio oni bai ei fod yn gwbl angenrheidiol, gan fod yna bosibilrwydd o amodau gyrru peryglus.

Ni ddylai unrhyw un geisio cerdded neu nofio drwy lifogydd, ac os ydych yn cael eich heffeithio gan ddŵr sydd yn llifo’n gyflym, yna’r cyngor yw ffonio 999 a disgwyl am gymorth.

Fe allai paratoi cit llifogydd arbed difrod i’ch tai neu fusnes, yn ôl y Swyddfa Dywydd. 

Byddai hyn yn cynnwys: dogfennau yswiriant, tortsh a batri sbâr, cit cymorth cyntaf, meddyginiaeth angenrheidiol a chyflenwadau ar gyfer eich teulu ac anifeiliaid anwes, dillad gwrth-ddŵr, blancedi, a bwyd a diod.

Mae’r cyngor swyddogol hefyd yn awgrymu i unigolion alw ar bobl fregus a phobl hŷn i sicrhau eu bod ganddyn nhw gymorth, bwyd a meddyginiaeth sydd ei hangen.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.