Rhybudd melyn am law i rannau o'r gogledd a'r canolbarth dros y penwythnos

Tywydd 11 Rhagfyr 25

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law i rannau o'r gogledd a'r canolbarth ddydd Sul.

Bydd y rhybudd yma yn dod i rym am 00.00 ddydd Sul ac yn parhau i fod yn weithredol am gyfnod o 24 awr.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai hyd at 30-40 mm o law ddisgyn mewn nifer o ardaloedd, gyda hyd at 80-100 mm yn disgyn ar dir uwch.

O ganlyniad maen nhw'n rhybuddio y gallai rhai mannau ddioddef llifogydd.

Fe allai'r glaw achosi oedi ar y ffyrdd ac ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac mae'n debygol y gallai effeithio ar gyflenwadau pŵer hefyd.

Daw hyn yn dilyn cyfres o rybuddion ar ddechrau'r wythnos, gan gynnwys rhybudd oren am law yn y de yn sgil Storm Bram.

Bydd y rhybudd melyn ddydd Sul yn effeithio ar y siroedd canlynol: Ceredigion; Conwy; Gwynedd; Powys; Sir Ddinbych.

Llun: Hefin Owen / Wikipedia 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.