Ffeiliau cyntaf Peter Mandelson i gael eu cyhoeddi ddydd Mercher
Fe fydd dogfennau yn ymwneud â phenodiad Peter Mandelson yn llysgennad i'r Unol Daleithiau yn cael eu rhyddhau ddydd Mercher.
Fe gafodd Peter Mandelson ei arestio ar 23 Chwefror ar amheuaeth o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.
Mae honiadau fod Peter Mandelson wedi trosglwyddo gwybodaeth sensitif i’r pedoffeil Jeffrey Epstein, tra’r oedd yn weinidog yn Llywodraeth Lafur Gordon Brown.
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth cyn cael ei ryddhau o amodau'r fechnïaeth yn ddiweddarach, ond mae'n parhau o dan ymchwiliad.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, Darren Jones y byddai "nifer fawr" o ddogfennau yn cael eu rhyddhau, ond y gred yw mai dim ond ffracsiwn o’r papurau y mae’r Senedd wedi eu mynnu fydd yn cael eu rhyddhau.
Fis diwethaf, fe wnaeth ASau orchymyn fod y Llywodraeth yn rhyddhau degau o filoedd o ddogfennau yn ymwneud â phenodiad Peter Mandelson yn 2024 yn sgil ei gysylltiadau â'r pedoffeil Jeffrey Epstein.
Mae'r Prif Weinidog, Syr Keir Starmer wedi mynnu fod Mr Mandelson wedi "dweud celwydd dro ar ôl tro" wrth Rhif 10 am ei berthynas ag Epstein, cyn ac yn ystod ei gyfnod fel llysgennad.
Fe fydd Prif Ysgrifennydd y Prif Weinidog, Mr Jones, yn cadarnhau rhyddhau'r set gyntaf o ddogfennau, sydd wedi cael caniatâd i'w cyhoeddi gan yr heddlu sy'n ymchwilio i Peter Mandelson, mewn datganiad yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mercher.
Fe fydd rhai ffeiliau yn cael eu hatal am resymau diogelwch cenedlaethol neu resymau yn ymwneud â chyslltiadau tramor.
Mae'r Llywodraeth hefyd wedi cytuno ar fframwaith gyda Heddlu'r Met ar ba ddogfennau sy'n gallu cael eu rhyddhau heb effeithio ar ymchwiliad presennol yr heddlu i Peter Mandelson.