Storm Bram: Gwynt a llifogydd yn achosi yn achosi trafferthion

09/12/2025

Storm Bram: Gwynt a llifogydd yn achosi yn achosi trafferthion

Mae gwynt a glaw yn achosi trafferthion yng Nghymru nos Fawrth wrth i Storm Bram daro'r wlad. 

Mae rhybuddion am lifogydd mewn grym ar draws Cymru gyfan, gyda rhybuddion coch mewn sawl ardal. 

Mae'r rhybudd oren am law trwm gan y Swyddfa Dywydd ar gyfer y de bellach wedi dod i ben, ond mae rhybuddion melyn am wyntoedd cryfion a glaw trwm yn parhau yn y gorllewin

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn gofyn i'r cyhoedd osgoi Stryd Fawr Bangor nos Fawrth, wedi adroddiadau fod teils yn disgyn oddi ar doeau oherwydd  y gwyntoedd cryfion.  

Yn ôl Trafnidiaeth Cymru, mae'r rheilffordd rhwng Abercynon ac Aberdâr yng Nghwm Cynon ar gau oherwydd llifogydd dirfrifol, tra bod llai o drenau yn rhedeg rhwng Danescourt a chanol Caerdydd am fod llifogydd ar y cledrau. 

Dywedodd Cyngor Powys brynhawn Mawrth fod disgwyl llifogydd i eiddo o amgylch Afon Gwy yn Llanfair-ym-Muallt.

Fe fydd Pont Tywysog Cymru ar gau rhwng 20.00 ddydd Mawrth a 06.00 ddydd Mercher er mwyn caniatáu i byst lamp sydd mewn peryg o syrthio gael eu tynnu oddi yno.

A bydd gêm Clwb Pêl-droed Caerdydd oddi cartref yn erbyn Stevenage yn dechrau chwarter awr yn hwyr nos Fawrth am 20:00 oherwydd y tywydd a'r amodau teithio.  

Cau porthladdoedd

Mae'r rhan fwyaf o deithiau llongau fferi o borthladdoedd Caergybi ag Abergwaun i Iwerddon wedi eu canslo.

Yng Nghaergybi, mae Terfynell 5 yn parhau i fod ar gau yno wedi "digwyddiad angori" yn ystod y penwythnos, ac mae'r tywydd garw yn golygu nad oes modd cynnal archwiliad o'r safle ar hyn o bryd.

Ar Ynys Môn mae cyfyngiad gyrru o 30mya mewn lle ar Bont Britannia o achos y gwyntoedd cryfion, ac yn y de mae'r hen Bont Hafren ar yr M48 ar gau hefyd o achos gwynt cryf.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi 42 rhybudd oren 'Llifogydd - byddwch yn barod', gydag 19 rhybudd coch am lifogydd mewn grym.

Mae'r Gwasanaeth Tywydd yn Iwerddon eisoes wedi enwi'r storm hon fel 'Storm Bram', gan hefyd rybuddio y gall mwy 'na chyfanswm hanner mis o law, ddisgyn o fewn cyfnod o 24 awr.

Dywedodd Coleg Menai fod pob un campws y sefydliad ar gau yn y gogledd ddydd Mawrth o achos gwyntoedd cryf.

Mae Gerddi Bodnant hefyd ar gau am y dydd yn Nhal-y-Cafn, Sir Conwy, am yr un rheswm.

Mae rhybudd melyn am wynt mewn grym tan 19:00 nos Fawrth. 

Mae'r rhybudd hwn yn effeithio ar y siroedd canlynol:

  • Abertawe
  • Sir Gaerfyrddin
  • Ceredigion
  • Conwy
  • Sir Ddinbych
  • Gwynedd
  • Ynys Môn
  • Sir Benfro
  • Powys

Gallai'r gwyntoedd achosi hyrddiadau rhwng 40 a 50 milltir yr awr, gyda rhai mannau arfordirol a thir uchel yn debygol o wynebu gwyntoedd dros 70 milltir yr awr ar draws gogledd orllewin Cymru.

Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai’r storm achosi difrod i adeiladau ac effeithio ar gyflenwadau pŵer.

Ychwanegodd y gallai hefyd effeithio ar drafnidiaeth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.