Ynys Môn: Pryder am wrthdaro rhwng y Sioe Frenhinol a’r tymor ysgol
Mae Cyngor Ynys Môn yn edrych ar ad-drefnu dyddiau hyfforddiant mewn swydd athrawon fel bod modd i blant y sir fynd i'r Sioe Frenhinol yn 2027.
Daw wedi i gynghorydd godi pryderon am wrthdaro rhwng diwedd y tymor ysgol ar Ynys Môn a dechrau’r Sioe Frenhinol y flwyddyn honno.
Ynys Môn fydd yn noddi'r Sioe Frenhinol yn 2027.
Mae tymor yr haf ar gyfer 2026-27 i fod i ddod i ben ar 20 Gorffennaf 2027, dau ddiwrnod i mewn i ddyddiadau cyntaf y sioe.
Mewn cyfarfod o Gyngor Sir Ynys Môn ddydd Mawrth, fe wnaeth y Cynghorydd Kenneth Hughes dynnu sylw at y gwrthdaro.
“Fe fydd ysgolion ar agor am ddeuddydd cyntaf y sioe,” meddai.
“A fyddai yn bosibl i ddeiliad y portffolio ddefnyddio ei ddylanwad i geisio dod o hyd i ddatrysiad sy'n sicrhau na fydd gwrthdaro rhwng dyddiadau'r sioe dyddiadau gwyliau ysgolion Ynys Môn yn 2027?” gofynnodd.
“Mae hyn yn hanfodol gan mai Ynys Môn yw'r sir nawdd yn 2027.”
Fe fydd y tymor ysgol ym Mhowys lle y mae’r Sioe Frenhinol yn cael ei chynnal yn dod i ben ar 16 Gorffennaf.
20 Gorffennaf yw diwrnod olaf y tymor ar draws gweddill Cymru.
'Treftadaeth amaethyddol'
Wrth ymateb i ymholiad y Cynghorydd Hughes, fe ddywedodd arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Gary Pritchard mai Llywodraeth Cymru sydd yn gosod y dyddiadau yng nghalendr addysg siroedd Cymru.
Dywedodd ei fod wedi anfon llythyr, ar y cyd gyda'r Aelod Seneddol, Llinos Medi, a'r Aelod o'r Senedd, Rhun ap Iorwerth, er mwyn sicrhau nad yw dyddiadau ysgol mewn siroedd sydd yn noddi'r Sioe yn y dyfodol yn gwrthdaro â dyddiadau'r digwyddiad.
Fe wnaeth y Cynghorydd Dafydd Roberts, sydd yn gyfrifol am addysg ar gabinet y Cyngor, gadarnhau ei fod yn ceisio ad-drefnu dyddiau hyfforddiant mewn swydd i athrawon yn ysgolion y sir, er mwyn sicrhau nad oedd angen i ddisgyblion fynychu'r ysgol ar y dyddiadau perthnasol.
Dywedodd Mr Roberts: “Yr unig hyblygrwydd sy’n bodoli ydi pryd mae ysgolion yn dewis cynnal pum diwrnod o hyfforddiant mewn swydd sy’n ofynnol mewn blwyddyn ysgol.
"Ond penderfyniad i benaethiaid a llywodraethwyr ysgol ydy hyn. Mae swyddogion addysg wedi bod mewn deialog efo penaethiaid bob dalgylch ers yr haf.
"Erbyn hyn, yng ngoleuni’r ffaith mai Sir Fôn sydd yn sir nawdd yn 2027, mae bob dalgylch wedi cyrraedd consensws i gynnal gwerth ddau ddiwrnod o HMS fel sesiynau gwyll yng nghorff flwyddyn yr ysgol, er mwyn galluogi disgyblion Môn i fynychu dau ddiwrnod gyntaf y sioe.
"Yr unig beth swni’n deud wrth gwrs ydi...mae isho i lywodraethwyr gefnogi hyn hefyd."
Fe ychwanegodd: "Mae Ynys Môn yn ymfalchïo yn ei threftadaeth amaethyddol ac yn awyddus i genedlaethau’r dyfodol gael pob cyfle i ffynnu yn y maes.
"Mae Sioe Frenhinol Cymru yn gyfle i arddangos a dathlu popeth sy’n dda am amaeth yng Nghymru, ac yn cynnig ysbrydoliaeth i bawb sy’n mynychu, boed yn ifanc neu’n hŷn.
"Da ni’n dymuno pob llwyddiant i’r sioe yn 2027 dan nawdd gwlad y medra."
Fe wnaeth y Cynghorydd Ken Hughes groesawu eu hymateb: "Diolch i’r ddau ohonoch chi am eich cefnogaeth.
"Mae’n bwysig, mae hon yn sioe boblogaidd iawn a’r sioe fwyaf ym Mhrydain Fawr. Mae cefnogaeth i amaeth yn hynod, hynod bwysig."
