Llafur a Phlaid Cymru yn dod i gytundeb ar gyllideb Llywodraeth Cymru
Mae Llafur a Phlaid Cymru wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi cyrraedd cytundeb ar gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27.
Mae'r cytundeb yn osgoi’r posibilrwydd na chaiff unrhyw gyllideb ei phasio o gwbl a’r toriadau helaeth i wasnaethau a fyddai yn deillio o hynny.
Byddai methu â phasio'r gyllideb erbyn mis Ebrill yn arwain at gwtogi'r cynlluniau gwariant yn awtomatig i 75% o rai'r llynedd.
Roedd Yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford wedi rhybuddio y gallai hynny gostio hyd at £7bn i Gymru, gan arwain at golli miloedd o swyddi.
Yn sgil colli isetholiad Caerffili i Blaid Cymru roedd angen cefnogaeth o leiaf ddau aelod o Senedd Cymru ychwanegol ar y Blaid Lafur er mwyn gallu pasio'r gyllideb.
Roedden nhw eisoes wedi trafod gyda'r Democratiaid Rhydddfrydol a hefyd y Ceidwadwyr Cymreig.
Mae'r cytundeb â Phlaid Cymru yn sicrhau bron i £300m o fuddsoddiad ychwanegol mewn gwasanaethau cyhoeddus Cymru, meddai Llywodraeth Cymru.
Ni fydd Plaid Cymru yn pleidleisio o blaid y gyllideb ond byddant yn ymatal i ganiatáu iddi basio, medden nhw.
Mae pleidlais yn y Senedd ar y gyllideb wedi'i threfnu ar gyfer 27 Ionawr.
Mae tair elfen i’r cytundeb:
- Cyllid ychwanegol i lywodraeth leol yn 2026-27 – £112.8m ychwanegol, sy’n darparu cynnydd cyffredinol o 4.5% i setliad llywodraeth leol. Bydd pob cyngor yn derbyn cynnydd dros 4%.
- Cyllid ychwanegol i’r gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol – £180m ychwanegol, sydd, ynghyd â’r cyllid yn y Gyllideb Ddrafft, yn cyfateb i gynnydd o 3.6% yn 2026-27.
- Bydd £120m o gyllid cyfalaf ar gael i’r llywodraeth nesaf ar ôl etholiad y Senedd i’w ddyrannu.
- Bydd y cytundeb yn cael ei adlewyrchu yn y Gyllideb Derfynol – ynghyd â dyraniadau eraill gan Lywodraeth Cymru, nad ydynt yn rhan o’r cytundeb – a gyhoeddir ar 20 Ionawr 2026.
'Diogelu swyddi'
Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan: “Mae’r cytundeb hwn yn dangos cryfder pleidiau’r Senedd yn gweithio gyda’i gilydd ar flaenoriaethau a rennir i gyflawni dros Gymru.
“Trwy’r cytundeb hwn rydym wedi sicrhau pasio’r gyllideb ac wedi atal toriadau posibl trychinebus i gyllid y flwyddyn nesaf.
“Mae’r cytundeb hwn yn rhyddhau £300m ychwanegol o fuddsoddiad ar gyfer cynghorau Cymru a’r GIG, ar ben mwy na £27bn a sicrhawyd drwy’r Gyllideb Ddrafft.”
Dywedodd Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru: “Mae hwn yn parhau i fod yn gyllideb i Lafur ei pherchenogi ond heb Blaid Cymru yn ymyrryd, byddai Llywodraeth nesaf Cymru yn etifeddu sylfeini llawer gwannach.
"Fe wnaethon ni weithredu i amddiffyn gwasanaethau nawr ac i sicrhau bod Cymru mewn sefyllfa gryfach ar gyfer y dyfodol."
Ymateb
Dywedodd llefarydd ar ran Reform UK Cymru ei fod "yn fwy o dystiolaeth bod pleidlais dros Blaid Cymru y flwyddyn nesaf yn bleidlais dros y Blaid Lafur".
“Tra bod y Blaid Lafur yn canfod eu hunain heb unrhyw ddylanwad, mae Plaid Cymru wedi camu i mewn unwaith eto i’w hachub," meddai.
“Yr unig ffordd i gael newid go iawn yng Nghymru yw gyda Phlaid Reform.”
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar ei fod yn "stitch up arall" rhwng Plaid Cymru a Llafur.
"Fe gynigiodd y Ceidwadwyr Cymreig agenda torri trethi a thorri gwariant gwastraffus er mwyn symud ein heconomi ymlaen," meddai.
“Bydd cytundeb Llafur a Phlaid Cymru yn golygu mwy o wariant gwastraffus. Dim ond y Ceidwadwyr Cymreig sydd â chynllun credadwy i drwsio Cymru.”
