Prifysgol Abertawe'n anrhydeddu'r Athro Brifardd Tudur Hallam
Mae Prifysgol Abertawe wedi cyflwyno gradd Doethur er Anrhydedd mewn Llenyddiaeth i’r Athro Brifardd Tudur Hallam yn gydnabyddiaeth am ei gyfraniad eithriadol i lenyddiaeth a diwylliant Cymraeg.
Cafodd yr anrhydedd ei chyflwyno iddo mewn digwyddiad graddio ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe brynhawn Mawrth.
Yr Athro Tudur Hallam gipiodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam eleni mewn seremoni deimladwy.
Roedd eisoes wedi ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol, a hynny ym Mhrifwyl Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd yn 2010.
Ym Mhrifwyl Wrecsam eleni, daeth i'r brig gyda chyfansoddiad personol a dirdynnol o dan y teitl ‘Dinas’ yn ymwneud â'i brofiad o dderbyn diagnosis canser.
Yn frodor o Ddyffryn Aman, enillodd Tudur Hallam radd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg a PhD o Brifysgol Aberystwyth, cyn cychwyn ar yrfa darlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe yn 1999.
Cafodd ei benodi i Gadair y Gymraeg yn 2011, a bu'n addysgu ac ymchwilio ym maes y Gymraeg yno tan ei ymddeoliad o’r rôl yn 2025 yn sgil tor iechyd.
Erbyn hyn, mae’n Athro Emeritws Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe.
"Olynydd teilwng"
Wrth dderbyn ei Gymrodoriaeth er Anrhydedd, dywedodd yr Athro Tudur Hallam: "Ces i yrfa hapus iawn ym Mhrifysgol Abertawe. Ces gyfle i weithio ag ysgolheigion amlwg mewn sawl maes, a mwynheais rannu â’m myfyrwyr y wefr y mae creadigrwydd yn ei roi i mi.
"Braint bob amser oedd eu dysgu a’u gweld yn datblygu a graddio. Heddiw, mae derbyn yr anrhydedd hon gan y brifysgol yn fraint fawr i fi a’r teulu. Fedraf fi ond dweud diolch a dymuno’r gorau i’r brifysgol wrth iddi barhau i gefnogi’r Gymraeg tua’r dyfodol."
Ar ran y Brifysgol, dywedodd yr Athro Gwenno Ffrancon, Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol ar gyfer y Gymraeg, ei Threftadaeth a'i Diwylliant a Chyfarwyddwr Academi Hywel Teifi: "Mae cyfraniad yr Athro Emeritws Tudur Hallam i ysgolheictod y Gymraeg, i lenyddiaeth a diwylliant Cymraeg, ac i fywyd ei genedl yn helaeth a chyfoethog.
"Mae’n llawn haeddu Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Abertawe am y cyfraniad hwnnw ac mae'n hyfryd gwybod ei fod yn cael ei gydnabod fel hyn.
"Bu'n Athro'r Gymraeg ysbrydoledig a phrofodd yn olynydd hynod deilwng i rai o gewri Adran y Gymraeg Abertawe – yr Athro Henry Lewis, Saunders Lewis, yr Athro T J Morgan, yr Athro Brynley F. Roberts, yr Athro Hywel Teifi Edwards, a’r Athro Brifardd Christine James.
"Mae cynifer o fyfyrwyr wedi elwa nid yn unig o'i addysgu rhagorol ond hefyd o'i ofal drostynt a'i anogaeth ac mae diolch graddedigion a chydweithwyr Abertawe iddo am hynny yn sylweddol."
