Newyddion S4C

Cipolwg ar benawdau'r bore

19/07/2021
Y Penawdau [NS4C]
NS4C

Bore da gan dîm Newyddion S4C.

Dyma ein prif straeon ar fore dydd Llun, 19 Gorffennaf.

‘Diwrnod Rhyddid’ i Loegr wrth i gyfyngiadau Covid-19 ddod i ben

Mae mwyafrif o gyfyngiadau Covid-19 wedi dod i ben yn Lloegr ar ‘Ddiwrnod Rhyddid’ y Prif Weinidog. Ni fydd yn rhaid i bobl yn y wlad wisgo mygydau rhagor, ond mae cyngor yn ei le ar gyfer eu gwisgo ar drafnidiaeth gyhoeddus. Er hynny, mae Boris Johnson wedi dweud wrth bobl am "gymryd gofal" wrth i gyfyngiadau godi.

Bargen Fasnach Awstralia yn ‘bradychu’ ffermwyr, medd Plaid Cymru

Mae llefarydd Plaid Cymru ar amaethyddiaeth a materion gwledig wedi disgrifio’r cytundeb masnach rydd rhwng Awstralia a’r Deyrnas Unedig fel “brad difrifol o ffermwyr Cymru”. Yn ôl Cefin Campbell AS, mae “risg wirioneddol” y bydd mewnlifiad o gig o Awstralia yn tanseilio cynnyrch domestig.

Lansio Sioe Frenhinol rhithiol 2021 wedi dwy flynedd o ohirio

Roedd y Sioe Frenhinol wedi gobeithio mai 2021 oedd y flwyddyn i groesawu ymwelwyr unwaith eto. Ond gyda Covid-19 yn parhau yn rhan o fywyd, sioe rithiol fydd hi eto eleni. Bydd y sioe yn lansio ddydd Llun a bydd amrywiaeth o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal tan ddydd Iau, 22 Gorffennaf.

Yr Alban yn symud i gyfyngiadau Lefel Sero

Mae'r Alban wedi symud i'r lefel isaf o gyfyngiadau Covid-19 wrth i'r wlad barhau ar eu llwybr allan o gyfnod clo. Hyd yn hyn dim ond rhai ynysoedd oedd wedi bod ar lefel sero ond roedd gweddill y wlad ar lefel un neu lefel dau. Mae'r symud i lefel sero yn golygu y bydd mwy o bobl yn cael cyfarfod tu mewn a mynychu priodasau ac angladdau.

Guto Harri yn ymddiswyddo o sianel GB News

Mae'r newyddiadurwr a'r cyflwynydd Guto Harri wedi ymddiswyddo o sianel GB News, yn ôl adroddiad yn The Independent. Fe gafodd Mr Harri ei wahardd o'r sianel wythnos diwethaf ar ôl iddo 'gymryd y ben-glin'. Fe aeth y cyflwynydd ar ei ben-glin yn fyw ar raglen yr oedd yn ei gyflwyno ar y sianel, a hynny i ddangos ei gefnogaeth i dîm pêl-droed Lloegr am wneud yr un safiad i wrthsefyll hiliaeth. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.