Newyddion S4C

Bargen Fasnach Awstralia yn ‘bradychu’ ffermwyr, medd Plaid Cymru

Amaethyddiaeth

Mae llefarydd Plaid Cymru ar amaethyddiaeth a materion gwledig wedi disgrifio’r cytundeb masnach rydd rhwng Awstralia a’r Deyrnas Unedig fel “brad difrifol o ffermwyr Cymru”.

Yn ôl Cefin Campbell AS, mae “risg wirioneddol” y bydd mewnlifiad o gig o Awstralia yn tanseilio cynnyrch domestig.

Daeth y DU ac Awstralia i gytundeb masnach ym mis Mehefin.

Ar y pryd, dywedodd y Prif Weinidog Boris Johnson bydd y cytundeb yn “agor drysau gwych” i bobl y ddwy wlad.

Mae’r telerau wedi ei beirniadu’n chwyrn gan yr undebau a’r gwrthbleidiau, yn sgil pryderon na fydd cynnyrch Prydeinig yn gallu cystadlu gyda chynnyrch o Awstralia ar y farchnad ddomestig.

Daw’r feirniadaeth ar ddechrau Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, gyda Mr Campell yn galw am sefydlu brand swyddogol ‘Gwnaed yng Nghymru’ ar gyfer cynnyrch Cymreig.

“Yn hytrach na chaniatáu cytundebau Torïaidd sy’n amlwg yn cyflenwi cynnyrch rhad o ansawdd isel i’n siopau a’n harchfarchnadoedd, gallwn werthu ein bwyd a’n diod gorau i’r byd er budd ein ffermwyr, yn hytrach na ar draul ein ffermwyr,” meddai.

Gyda ffermwyr yn Awstralia a thu hwnt yn cydymffurfio â rheolau a safonau gwbl wahanol i’r Deyrnas Unedig, mae Hybu Cig Cymru wedi dweud y bydd angen i unrhyw gytundeb masnach warchod y rhai sydd mewn grym yng Nghymru.

‘Dim cyfaddawdu ar safonau’

Rhybuddiodd eu Cadeirydd Catherine Smith y bydd yn “anodd iawn, iawn” i gystadleuwyr o wledydd eraill gydymffurfo â safonau ffermwyr yng Nghymru.

“Nid ydym yn barod i gyfaddawdu’r safonau hynny i gyd-fynd â dulliau cynhyrchu rhatach a llai cynaliadwy mewn gwledydd eraill.

“Ni fydd cynhyrchwyr a chwsmeriaid Cymru yn goddef unrhyw erydiad safonau yn y farchnad fodern.”

Mae Newyddion S4C wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Llun: Dolbinator1000

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.