Newyddion S4C

Guto Harri yn ymddiswyddo o sianel GB News

The Independent 19/07/2021
Guto Harri

Mae'r newyddiadurwr a'r cyflwynydd Guto Harri wedi ymddiswyddo o sianel GB News, yn ôl adroddiad yn The Independent.

Fe gafodd Mr Harri ei wahardd o'r sianel wythnos diwethaf ar ôl iddo 'gymryd y ben-glin'.

Fe aeth y cyflwynydd ar ei ben-glin yn fyw ar raglen yr oedd yn ei gyflwyno ar y sianel, a hynny i ddangos ei gefnogaeth i dîm pêl-droed Lloegr am wneud yr un safiad i wrthsefyll hiliaeth. 

Fe wnaeth GB News dderbyn beirniadaeth gan wylwyr yn dilyn y digwyddiad.

Yn ei lythyr ymddiswyddo, mae Mr Harri yn nodi ei resymau dros adael y sianel, sydd wedi lansio ers ychydig dros fis.

Mae'n dweud ei fod wedi trafod penlinio gyda'i gynhyrchydd, cyfarwyddwr, cyd-gyflwynwyr a phennaeth yr ystafell newyddion, ond bod y sianel wedi gofyn iddo gymryd "seibiant am yr haf" ddeuddydd wedi'r digwyddiad.

Wedi hyn, mae Mr Harri yn dweud eu bod wedi "anwybyddu ei negeseuon a gwrthod cymryd ei alwadau".

Mewn datganiad, mae GB News wedi dweud eu bod yn “sefyll yn gadarn yn erbyn hiliaeth” ond ei bod yn “annerbyniol” i unrhyw gyflwynydd ar ei sioeau gymryd y pen-glin, ystum sy’n gysylltiedig â mudiad Mae Bywydau Du o Bwys (Black Lives Matter).

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.