Lansio Sioe Frenhinol rhithiol 2021 wedi dwy flynedd o ohirio
Lansio Sioe Frenhinol rhithiol 2021 wedi dwy flynedd o ohirio
Roedd y Sioe Frenhinol wedi gobeithio mai 2021 oedd y flwyddyn i groesawu ymwelwyr unwaith eto.
Ond gyda Covid-19 yn parhau yn rhan o fywyd, sioe rithiol fydd hi eto eleni.
Bydd y sioe yn lansio ddydd Llun a bydd amrywiaeth o ddigwyddiadau yn cymryd lle tan ddydd Iau, 22 Gorffennaf.
Fe ddathlodd y Sioe Frenhinol ei phen-blwydd yn 100 oed yn 2019, flwyddyn cyn i gyfyngiadau Covid-19 ddod fewn i rym.
Mae o ddeutu 240,000 o bobl yn ymweld â’r sioe pob blwyddyn, gyda dros 1,000 o stondinau a 8,000 o anifeiliaid yn llenwi’r maes.
‘Amser a ddengys’
Gyda’r holl ddigwyddiadau torfol wedi dod i ben, mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi gwneud cais am gymorth ariannol o £500,000.
Dywedodd John Davies, Cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr CAFC ei fod yn “obeithiol” y bydd y llywodraeth yn gallu cefnogi’r gymdeithas ar gyfer y dyfodol.
“Ond nid er lles y gymdeithas, ond er lles y genhedlaeth nesaf o bobl sy'n mwynhau ac yn cael y fendith allan o fod yn ein digwyddiadau ni o flwyddyn i flwyddyn.
“Dyna beth yw hyd a lled y cais, ond amser a ddengys.”
Ar ôl i gyfyngiadau Covid-19 gael eu llacio ddydd Sadwrn, a chynlluniau i lacio ymhellach ym mis Awst, mae’n bosib y gall digwyddiadau torfol fynd yn eu blaen yn y misoedd i ddod.
Ychwanegodd Mr Davies: “I ni am weld bo ni'n gallu rhoi Ffair Aeaf ymlaen eleni yn i gyfanrwydd, a mwy os bosib, ryw fath o ddigwyddiad fydd yn dathlu pobl yn dod 'nôl i ryw fath o drefn arferol.
“Fydd y byd ddim 'run peth yn naturiol, ac wrth gwrs i ganiatáu i ni neud hynny ma' angen i ni fel cymdeithas i gael hyder ein bod ni yn medru gweithio i drefnau gwahanol, a felly o'n i'n teimlo fod cael digwyddiad yn mis Medi yn ymwneud a'r byd ceffylau, sydd yn gymharol hawdd i reoli.
“Ac odd 'na dipyn o alw am hyn i ddigwydd, yn fyw o bosib na beth oedd o'r byd defaid a gwartheg, oherwydd ma' mwy o waith paratoi ymlaen llaw.
“Ac felly ni'n edrych mlaen am ddigwyddiad yn mis Medi, ond ni'n edrych mlaen hyd yn oed yn fwy i groesawu'r genedl nôl i Ffair Aeaf o leiaf deuddydd diwedd mis Tachwedd.
Ar drothwy’r Sioe, mae Gweinidog dros Faterion Gwledig Lesley Griffiths wedi diolch i’r sector am eu hymroddiad yn ystod Covid-19.
Dywedodd y Gweinidog: "Ffermio ac amaethyddiaeth yw calon y Gymru wledig o hyd ac rydym yn falch o gefnogi Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru eleni.
"Mae'n drist iawn, wrth gwrs, na fyddwn yn cwrdd wyneb yn wyneb yn y sioe eto eleni, ond rhaid i iechyd y cyhoedd ddod yn gyntaf.
"Rwy'n hynod falch o'r ymrwymiad sydd gan bawb yn y diwydiant ac wedi sicrhau fod pobl Cymru wedi parhau i gael y dewis gorau posibl o gynnyrch o Gymru.
"Mae'n amlwg bod pobl wedi gwerthfawrogi pwysigrwydd gallu cael gafael ar gynnyrch lleol yn ystod y pandemig.
"Diolch am bopeth rydych chi wedi'i wneud ac yn parhau i'w wneud."
Prif lun: S4C