Newyddion S4C

Cipolwg ar benawdau'r bore

14/07/2021
Y Penawdau [NS4C]
NS4C

Bore da gan dîm Newyddion S4C.

Dyma ein prif benawdau ar fore dydd Mercher, 14 Gorffennaf.

Covid-19: Y cyfyngiadau allai newid yng Nghymru

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog Mark Drakeford gyhoeddi adolygiad i’r genedl ddydd Mercher gan amlinellu’r hyn fydd yn newid i reolau Covid-19 Cymru. Gall newidiau ddod i reolau cwrdd â phobl dan do a dathliadau tu allan. Bydd Mr Drakeford yn cynnal cynhadledd i’r wasg am 17:15 ddydd Mercher.

'Un o bob tri' yn yfed mwy ers y pandemig medd elusen - Newyddion S4C

Yn ôl ymchwil gan Alcohol Change UK, mae un o bob tri yn dweud eu bod wedi yfed mwy o alcohol y llynedd o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Mae ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn awgrymu bod marwolaethau o ganlyniad penodol i alcohol wedi cyrraedd eu lefelau uchaf eto.

Cynllun i ddod ag erlyniadau hanesyddol yng Ngogledd Iwerddon i ben - Sky News

Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu dod â holl erlyniadau hanesyddol yn erbyn cyn filwyr ag aelodau o grwpiau parafilwrol yn ystod cyfnod Trafferthion Gogledd Iwerddon i ben. Mae teuluoedd dioddefwyr sydd yn rhan o'r achosion hanesyddol wedi lleisio eu hanfodlonrwydd gyda'r cam, ac mae Llywodraeth Iwerddon a phum plaid wleidyddol yn y Gogledd hefyd wedi gwrthwynebu'r cynllun.

Y gwrthbleidiau yn galw am ymchwiliad i reolaeth y pandemig yng Nghymru

Mae disgwyl i’r Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru gyflwyno cynnig gerbron y Senedd ddydd Mercher yn mynnu fod Llywodraeth Cymru yn cynnal ymchwiliad i reolaeth y pandemig yng Nghymru. Mae Llywodraeth San Steffan eisoes wedi ymrwymo i gynnal ymchwiliad annibynnol i reolaeth y pandemig ar draws y Deyrnas Unedig, gyda gweinidogion yn Llundain yn addo cyd-weithio’n agos gyda’r llywodraethau datganoledig.

Gwahardd gwerthu lorïau petrol a disel newydd erbyn 2040 - Independent

Fe fydd Prydain yn gwahardd gwerthu lorïau petrol a disel newydd erbyn 2040, fel rhan o gynllun Llywodraeth y Deyrnas Unedig i geisio torri allyriadau nwyon tŷ gwydr gan drafnidiaeth i sero net erbyn canol y ganrif. Trafnidiaeth yw'r sector sydd yn achosi'r llygredd mwyaf yn y Deyrnas Unedig. Roedd yn cynrychioli traean o holl allyriadau CO2 y wlad cyn cychwyn y pandemig.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.