Newyddion S4C

'Un o bob tri' yn yfed mwy ers y pandemig medd elusen

Newyddion S4C 14/07/2021

'Un o bob tri' yn yfed mwy ers y pandemig medd elusen

Yn ôl ymchwil gan Alcohol Change UK, mae un o bob tri yn dweud eu bod wedi yfed mwy o alcohol y llynedd o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Mae ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn awgrymu bod marwolaethau o ganlyniad penodol i alcohol wedi cyrraedd eu lefelau uchaf eto.

Trodd Kathy Edge o Gasnewydd at alcohol yn ystod y clo cyntaf.

"Pan daeth y clo, a doedd dim modd mynd allan mi o'n i'n yfed cocktails ar Zoom gyda ffrindiau,” meddai wrth raglen Newyddion S4C.

"Roedd peth ar ôl y noson wedyn a dyma fi'n diwedd hwnnw, a dyna sut ddechreuodd y cyfan.”

"Cael diod yn gynharach, cael dau ddiod, ac yna glas o wÎn gyda fy nghinio ac yn y blaen."

Erbyn hyn mae cerdded yn anodd iddi ar ôl niweidio nerfau yn ei choesau - poen sy'n deillio o orddefnydd alcohol yn ystod y pandemig.

Image
NS4C

 

Yn ei hugeiniau, doedd Kathy Edge ddim yn wahanol i unrhyw berson ifanc arall ac yn mwynhau cymdeithasu.

Mae bellach yn ei phumdegau ac mae'r cyfnod clo wedi bod yn gyfnod tywyll iawn iddi hi.

Er nad yw'n gwybod os fydd hi'n gallu cerdded heb gymorth eto, mae wedi mynd saith mis heb alcohol ac yn cydnabod bod ei bywyd yn well hebddo. 

Image
NS4C

Mae Lynda Owen hefyd yn ymwybodol o'r heriau wrth chwilio am gymorth. 

Flynyddoedd yn ôl ar ôl cyfnod o iselder, fe drodd hi at alcohol. 

Erbyn hyn, mae'n cynnal sesiynau gyda rhai sy'n mynd drwy'r un profiad, ac wedi gweld effaith y pandemig ar ddefnydd pobl o alcohol.

"Ma' 'na ffrind i ffrind yn deud mae angen dod yma - enwedig mamau adref yn cael diod bach yn yr ardd, yn enwedig yn lockdown de.

"Cael drink bach gyda'r nos wedyn, ddim yn gorfod codi i fynd i'r gwaith ac mae o wedi cynyddu."

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, cafodd y gwasanaethau camddefnyddio sylweddau eu haddasu yn ystod y pandemig.

Roedd meddyginiaeth yn cael ei ddosbarthu i'r bobl a oedd yn gorfod hunan-ynysu, ac roedd ymgynghoriadau ar-lein a gwasanaethau cymorth seicolegol yn parhau i fod ar gael i'r rhai oedd eu hangen hefyd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.