Covid-19: Y cyfyngiadau allai newid yng Nghymru
Mae disgwyl i’r Prif Weinidog Mark Drakeford gyhoeddi adolygiad i’r genedl ddydd Mercher gan amlinellu’r hyn fydd yn newid i reolau Covid-19 Cymru.
Daw’r newidiadau ar ôl i Boris Johnson gadarnhau y bydd y ‘diwrnod rhyddid’ yn digwydd yn Lloegr ar 19 Gorffennaf.
Bydd Mr Drakeford yn cyhoeddi'r newidiadau am 15:10 cyn cynnal cynhadledd i’r wasg am 17:15 ddydd Mercher.
Gyda’r diwedd i gyfyngiadau Covid-19 hefyd yn dod i ben ymhen ychydig o wythnosau (9 Awst) yn yr Alban, mae disgwyliadau mawr am y diweddariad yng Nghymru.
Ar hyn o bryd mae Cymru yn symud o gyfyngiadau Covid-19 lefel rhybudd dau i gyfyngiadau lefel rhybudd un.
Felly, beth yw’r rheolau all newid yng Nghymru?
Gwisgo mygydau
Am y tro, nid oes disgwyl unrhyw newid i’r rheolau ar wisgo mygydau mewn mannau cyhoeddus dan do newid, gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus fel trenau a thacsis.
Mae gweinidogion y llywodraeth eisoes wedi datgan na fyddai’r gofyniad gorfodol ar wisgo mygydau yn newid tra bod coronafeirws yn peri bygythiad i iechyd y cyhoedd.
Gyda’r rheolau ar fygydau yn newid i fod yn ddewis personol yn Lloegr, mae yna bryderon ynglŷn â’r nifer sy’n teithio dros y ffin heb fygydau.
Mae rhagolygon tebyg i’w ddisgwyl ynglŷn â chadw pellter cymdeithasol.
Cwrdd â phobl dan do
Ar hyn o bryd yng Nghymru mae’r rheolau ar gyfer cwrdd â phobl dan do yn parhau i weithredu dan gyfyngiadau lefel rhybudd dau, ond mae disgwyl i hyn newid ddydd Mercher.
Gyda disgwyl i’r wlad symud yn gyfan gwbl, bydd hawl gan y cyhoedd i gwrdd â mwy o bobl dan do.
Mewn cartrefi, mae disgwyl i’r terfyn o dair aelwyd-estynedig gael ei newid i reol o chwech tra ym mannau cyhoeddus megis tai bwyta a thafarndai, mae disgwyl i’r terfyn o chwech unigolion ar fwrdd i gynyddu.
Dathliadau y tu allan
Gyda nifer yn edrych at yr haf y gobaith i rai yw bydd y cyfyngiad o 30 person y tu allan yn cael ei llacio’n bellach.
Bydd digwyddiadau gyda nifer anghyfyngedig o bobl yn cael cymryd lle o’r 14 Gorffennaf yn Lloegr a’r 9 Awst yn yr Alban.
Yng Nghymru, mae’n debyg y byddai’r terfyn ar y niferoedd all gwrdd y tu allan godi ychydig ond nid oes gwyliau neu ddathliadau anghyfyngedig wedi ei gynnal yn y wlad hyd yn hyn.
Mae disgwyl i Mr Drakeford amlinellu’r cyfan prynhawn dydd Mercher, gyda’r gynhadledd i’r wasg yn fyw ar blatfformau digidol Newyddion S4C.