Newyddion S4C

Y gwrthbleidiau yn galw am ymchwiliad i reolaeth y pandemig yng Nghymru

14/07/2021
Senedd Cymru

Mae disgwyl i’r Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru gyflwyno cynnig gerbron y Senedd ddydd Mercher yn mynnu fod Llywodraeth Cymru yn cynnal ymchwiliad i reolaeth y pandemig yng Nghymru.

Daw hyn yn dilyn yr un alwad gan nifer o uwch feddygon ac arbenigwyr iechyd mewn llythyr cyhoeddus yn gynharach ym mis Gorffennaf.

Mae Llywodraeth San Steffan eisoes wedi ymrwymo i gynnal ymchwiliad annibynnol i reolaeth y pandemig ar draws y Deyrnas Unedig, gyda gweinidogion yn Llundain yn addo cyd-weithio’n agos gyda’r llywodraethau datganoledig.

Yn y gorffennol, mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud y bydd Cymru yn cael ei chynnwys yn yr ymchwiliad Prydeinig.

Mae 5,580 o bobl wedi marw o Covid-19 ers dechrau’r pandemig, gyda’r nifer o achosion sydd wedi’u cadarnhau yn 226,428.

Fe wnaeth ymchwiliad diweddar gan raglen Newyddion S4C ddatgelu fod chwarter o’r rhai fu farw yng Nghymru eu heintio yn yr ysbyty.

Roedd y ffigurau ar gyfer bwrdd iechyd Hywel Dda a Bae Abertawe yn dangos fod un o bob tri o farwolaethau Covid-19 yn gysylltiedig â heintio mewn ysbytai.

Fe all mwy ei wneud i atal brigiadau o Covid-19 yn ôl adolygiad diweddar Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

Dywedodd y rheoleiddiwr bod angen sicrhau bod trefniadau ar waith i gefnogi llesiant staff, yn sgil y pwysau a roddodd y pandemig ar weithwyr iechyd.

Yn ôl y Ceidwadwyr, mae’r Llywodraeth Cymru wedi “gwrthod ymroi i gynnal ymchwiliad Cymreig”.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd cysgodol dros y Ceidwadwyr Russell George: “Ar ôl y 18 mis anoddaf mewn cof byw, mae’n ddyled arnom ni i bobl Cymru ddysgu beth aeth yn iawn a beth aeth o’i le – ac nid ond traddodi’r profiad mewn pennod unig, sydd wedi’u hesgeuluso mewn ymchwiliad anferth. 

“Rydyn ni wedi gweld cynllun brechlyn gwych, ond yn anffodus mae’n anochel fod gan Gymru'r gyfradd marwolaethau uchaf o unrhyw wlad yn y Deyrnas Unedig, ac wythnos diwethaf fe wnaethon ni ddysgu bod bron i chwarter y bobl a fu farw’n drasig gyda coronafeirws yn ein gwlad wedi ei ddal mewn ysbyty.

Ychwanegodd na fydd y llywodraeth yn gallu osgoi'r cyfrifoldeb ymhellach. 

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae’r Prif Weinidog wedi amlinellu lawer gwaith o’r blaen fod ymchwiliad ledled y DU wedi ei gytuno rhwng y bedair wlad.

“Gofynnwyd am gael penodau penodol sy'n delio'n uniongyrchol â phrofiadau byw y rhai sydd yma yng Nghymru.

“Bydd gan ymchwiliad ledled y DU y gallu a’r grym i oruchwylio natur gydgysylltiedig llawer o’r penderfyniadau a wnaed ar draws y pedair gwlad a dyma’r ffordd orau i ddod I ddeall y profiadau gofidus y mae pobl wedi eu cael yng Nghymru yn iawn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.