Newyddion S4C

Bron i 25% o'r bobl fu farw o Covid-19 wedi ei ddal yn yr ysbyty

Newyddion S4C 05/07/2021

Bron i 25% o'r bobl fu farw o Covid-19 wedi ei ddal yn yr ysbyty

Fe gafodd chwarter y rhai fu farw o Covid-19 yng Nghymru eu heintio yn yr ysbyty, yn ôl ymchwiliad gan raglen Newyddion S4C.

Fe gafodd cais dan y ddeddf rhyddid gwybodaeth ei wneud i bob un o fyrddau iechyd Cymru.

Roedd 1,860 o’r rhai fu farw gyda Covid-19 wedi ei nodi ar eu tystysgrif marwolaeth rhwng dechrau’r pandemig a 1 Mai eleni “yn sicr” neu’n “debygol” o fod wedi eu heintio yn yr ysbyty.

Mae hynny yn cyfateb i 24.4% o farwolaethau Covid-19 ar hyd y wlad yn y cyfnod hwnnw. 

Ni chafodd ffigyrau ar gyfer Bwrdd Iechyd Powys eu cynnwys am nad oes ysbyty cyffredinol o fewn yr ardal.

Yno, mae mwyafrif y cleifion sydd yn ddifrifol wael yn derbyn eu triniaeth dros y ffin yn Lloegr.

Mewn dau fwrdd iechyd, Hywel Dda a Bae Abertawe, mae’r ffigyrau yn dangos bod un o bob tri o farwolaethau Covid-19 yn gysylltiedig â heintio mewn ysbytai.

Yn ôl y byrddau iechyd, os ydi claf yn profi’n bositif am Covid-19 dros 14 diwrnod ar ôl dechrau triniaeth yn yr ysbyty, yna mae’n “sicr” o fod wedi eu heintio yno.

Mae “tebygol” yn cyfeirio at achosion o'r haint pan caiff achos positif ei gadarnhau rhwng 7 ac 14 diwrnod ers i glaf ddechrau triniaeth yn yr ysbyty.

Image
Carley Keirle
Fe gollodd Carley Keirle ei thad-cu, Dennis, fis Ebrill 2020.

Yn y Rhondda, mae Carley Keirle yn galaru am ei thad-cu, Dennis. Wedi iddo wella ar ôl canser, bu’n dioddef poenau yn ei stumog. Ceisiodd gael trinaieth yn Ysbyty Brenihnol Morgannwg.

Mae ei deulu yn credu iddo gael ei heintio â Covid-19 yno.

Bu farw ym mis Ebrill y llynedd.

“Tydw i ddim yn deall sut y gall ysbytai ganiatau i hyn ddigwydd", meddai Carlee.

“Byddwn yn hoffi gweld ymchwiliad Cymru-gyfan. byddai’n cynnig tawelwch meddwl i deuluoedd.”

Image
Eilir Hughes
Mae Dr Eilir Hughes yn un o sylfaenwyr ymgyrch Awyr Iach.

Mae Dr Eilir Hughes yn un o sylfaenwyr yr ymgyrch Awyr Iach, sydd yn galw am well awyru ac offer PPE i ymdrin a Covid-19.

Yn feddyg teulu, mae Dr Hughes yn derbyn nad ydi’r ffigyrau’n syndod.

“Tydi hi ddim yn syndod bod nifer uchel o’r rheini sydd wedi dal y feirws yn yr ysbyty wedi marw o ganlyniad gan eu bod nhw yn cynrychioli rhai o’r pobl mwyaf bregus yn y gymdeithas. Ryden ni’n gwybod bod y feirws yn fwy peryglus iddyn nhw", dywedodd Dr Hughes.

“Ond mae angen i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu mesurau i atal Covid-19 rhag lledaenu yn yr aer. Pethau fel awyru, defnyddio golau UV-C i lanhau’r aer a gofyn i gleifion wisgo masg os fedrwn nhw ddiodde’ gwneud hynny".

Image
Graffeg still
Mae'r sefyllfa'n amrywio ar draws y byrddau iechyd.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llwyodraeth Cymru: “Trwy gydol y pandemig, mae nifer fawr o bobl wedi marw ar ôl dal yr haint erchyll yma. Mae ein meddyliau yn dal i fod gyda’u teuluoedd a’u hanwyliaid.

“Mae coronafeirws yn feirws sydd â’r gallu i ledaenu yn gyflym, ac rydym yn gwybod y gall pobl ei basio ymlaen i eraill heb ddangos unrhyw symptomau o gwbl. Mae’r NHS yng Nghymru wedi gweithio yn eithriadol o galed trwy gydol y pandemig i wneud popeth y gallai i gadw’r feirws o ysbytai ac i amddiffyn pobl yn eu gofal, yn aml dan amgylchiadau anodd iawn.

“Mae mesurau caeth ynglŷn â rheoli a cheisio atal lledaeniad yr haint wedi eu dilyn, a ryden ni wedi cyhoeddi canllawiau helaeth yn ymwneud â ymbellhau cymdeithasol ac ymweld ag ysbytai. Mae profi wedi bod yn eang o fewn y Gwasanaeth Iechyd; roedd staff gyda’r cyntaf i dderbyn brechlyn ac mae cannoedd o filiynau o eitemau o PPE wedi eu defnyddio i amddiffyn staff  a chleifion.

“Er yr holl fesurau yma, yn anffodus, mae heintio wedi digwydd mewn ysbytai. Yn drist iawn mae pobl wedi marw ar ôl dal coronafeirws mewn ysbytai. Mae pob achos yn cael eu hymchwilio yn drylwyr".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.