Newyddion S4C

Meddygon yn galw am ymchwiliad i reolaeth y pandemig yng Nghymru

06/07/2021
Nyrs
Nyrs

Mae nifer o uwch feddygon ac arbenigwyr iechyd wedi galw am ymchwiliad i reolaeth y pandemig sydd yn benodol i Gymru.

Yn y gorffennol, mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi dweud ei fod yn dymuno i unrhyw ymchwiliad i'r pandemig yng Nghymru fod yn rhan o ymchwiliad ehangach ar draws y Deyrnas Unedig.

Mae llofnodwyr y llythyr yn dweud y byddai ymchwiliad cynnar i driniaeth y pandemig yn lleihau'r risg i iechyd, i'r economi a bywydau wrth i achosion o'r feirws gynyddu ar draws Cymru.

Dywed y meddygon: "Nid yn unig y bydd gohirio ymchwiliad cynhwysfawr yn rhwystro unrhyw ddychweliad ystyrlon tuag at wasanaeth iechyd sy'n gweithio'n rheolaidd, ond mae perygl iddo gynyddu pwysau ar GIG sydd eisoes wedi'i lethu.

"Yn bwysicach fyth, bydd osgoi ymchwiliad swyddogol ar unwaith yn sicr yn arwain at niwed economaidd pellach, anallu tymor hir a cholli bywyd yn ddiangen".

Mae'r rhai sydd wedi arwyddo'r llythyr hefyd yn cynnwys y cyn-Aelod Seneddol Llafur Ann Clwyd, a oedd yn cynrychioli Cwm Cynon yn Nhŷ’r Cyffredin tan 2019.

Yn y llythyr, mae galw am ymchwiliad i ateb cwestiynau am sut i wella gwasanaethau Tracio, Olrhain ac Amddiffyn yng Nghymru, sut i leihau marwolaethau sy'n gysylltiedig â throsglwyddo SARS-CoV-2 yn yr ysbyty a sut fyddai modd gwella ar y ffactorau gafodd eu cyflwyno mewn sefydliadau addysg i leihau trosglwyddiad.

Mae'r llythyr hefyd yn gofyn am ystyried effeithiau oedi wrth gyflwyno rheidrwydd cyfreithiol am wisgo mygydau a diffyg pwyslais ar awyru.

Nid oedd rheidrwydd i wisgo mygydau mewn mannau cyhoeddus yng Nghymru tan fis Medi 2020, yn ddiweddarach na mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud y bydd Cymru'n rhan o ymchwiliad cyhoeddus y DU i bandemig y coronafeirws, sydd wedi ei gyhoeddi gan Brif Weinidog y DU.

"Mae e wedi trafod yr ymchwiliad traws-DU gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU ac wedi dweud fod angen penodau penodol sy'n delio gyda'r profiad yng Nghymru yn unig.  Un ymchwiliad ar draws y DU yw'r ffordd orau i ddeall y profiadau pryderus mae pobl wedi eu cael yng Nghymru yn ystod y pandemig hwn sy'n parhau i fynd yn ei flaen". 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.