Newyddion S4C

Cynllun i ddod ag erlyniadau hanesyddol yng Ngogledd Iwerddon i ben

Sky News 14/07/2021
Unsplash

Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu dod â holl erlyniadau hanesyddol yn erbyn cyn filwyr ag aelodau o grwpiau parafilwrol yn ystod cyfnod Trafferthion Gogledd Iwerddon i ben.

Yn ôl Sky News, fe fydd y newidiadau'n berthnasol i achosion cyfreithiol cyn cytundeb heddiwch Dydd Gwener y Groglith 1998. 

Mae teuluoedd dioddefwyr sydd yn rhan o'r achosion hanesyddol wedi lleisio eu hanfodlonrwydd gyda'r cam, ac mae Llywodraeth Iwerddon a phum plaid wleidyddol yn y Gogledd hefyd wedi gwrthwynebu'r cynllun.

Darllenwch y stori'n llawn yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.