Reform UK yn derbyn dwy rodd o £36 miliwn mewn dau ddiwrnod
Mae plaid wleidyddol Reform UK wedi derbyn dwy rodd o £36 miliwn yr un o fewn 48 awr o'u gilydd.
Fe wnaeth y blaid dderbyn £36 miliwn gan y dyn busnes Ben Delo, y rhodd unigol fwyaf erioed i blaid wleidyddol ym Mhrydain.
Dywedodd Mr Delo, biliwnydd o Brydain, sydd yn ôl adroddiadau wedi dychwelyd i'r DU o Hong Kong yn ddiweddar, ei fod wedi rhoi'r arian i sicrhau "brwydr deg" yn yr etholiad.
Daeth cyhoeddiad yn ddiweddarach bod y buddsoddwr arian crypto Christopher Harborne wedi penderfynu cyfrannu'r un swm i'r blaid, sy'n cael ei harwain gan Nigel Farage.
Dywedodd Mr Harborne yn y Telegraph mai'r "ysbryd cystadleuol" oedd wedi ei ysbrydoli i roi swm cyfwerth â rhodd Mr Delo.
Dywedodd y entrepreneur, sydd yn byw yn Thailand nad oedd yn disgwyl unrhyw beth yn gyfnewid am y rhodd, heb law am "blaid sydd yn barod i lywodraethu".
Mae’r swm yn rhoi hwb i Nigel Farage wrth i’w gyllid ef a'r blaid Reform gael eu craffu, gydag ymchwiliad troseddol yn cael ei gynnal i honiadau iddyn nhw dorri rheolau ynghylch rhoddion gwleidyddol.
Dywedodd Mr Farage: "Mae'n anrhydedd i mi fod Ben Delo wedi dangos cymaint o hyder yn Reform."
Mr Delo, un o gyd-sylfaenwyr y platfform arian digidol BitMEX, yw cyfrannwr mwyaf Reform.
Wrth ysgrifennu yn y Telegraph, dywedodd Mr Delo: “Yn wahanol i’r bobl sy’n mynegi pryder ffug am iechyd ‘ein democratiaeth’ tra’n gwneud popeth o fewn eu gallu i’w chadw fel cartel, rydw i eisiau cystadleuaeth deg a maes chwarae gwastad.
“Fy nghasgliad o drafferthion diweddar Reform yw y dylent dreulio llai o amser yn ceisio codi arian i gystadlu ar delerau cyfartal a mwy o amser yn paratoi ar gyfer llywodraethu.”
Dywedodd y Telegraph fod Mr Delo wedi gwneud y taliad ymlaen llaw er mwyn osgoi ymgeision i’w rwystro.
Yr wythnos diwethaf, fe gefnogodd ASau fesurau gan gynnwys cap o £100,000 ar roddion tramor ac atal cyllid trwy arian cyfred digidol, ond mae angen i Dŷ’r Arglwyddi basio’r ddeddfwriaeth ddrafft o hyd cyn iddi ddod yn gyfraith.
Mae’r blaid wedi wynebu cwestiynau parhaus am ei harian, mater a gafodd effaith negyddol ar ei chynhadledd flynyddol yr wythnos diwethaf yn dilyn ymchwiliad cudd a ddarlledwyd ar Channel 4 News.
Mae ditectifs o Heddlu’r Met yn Llundain yn ymchwilio ar ôl i’r adroddiad ddangos uwch-aelodau o Reform yn ymddangos fel pe baent yn trafod sut i guddio rhoddion o ffynonellau tramor.
Mae Reform UK yn gwadu unrhyw gamymddygiad ac wedi dweud y bydd yn cydweithredu’n llawn â’r ymchwiliad. Mae arweinydd y blaid hefyd yn wynebu ymchwiliad gan gorff gwarchod safonau’r Senedd ynghylch rhodd o £5 miliwn a dderbyniodd gan Mr Harborne.
Mae Mr Farage wedi dweud nad yw wedi gwneud dim byd o’i le ac nad oedd y rhodd yn un wleidyddol.