Gwahardd gwerthu lorïau petrol a disel newydd erbyn 2040
14/07/2021
Fe fydd Prydain yn gwahardd gwerthu lorïau petrol a disel newydd erbyn 2040, fel rhan o gynllun Llywodraeth y Deyrnas Unedig i geisio torri allyriadau nwyon tŷ gwydr gan drafnidiaeth i sero net erbyn canol y ganrif.
Yn ôl The Independent, fe fydd y rheolau newydd yn rhan o "gynllun datgarboneiddio trafnidiaeth" y llywodraeth a fydd yn ceisio gwahardd cerbydau sydd yn llygru’r amgylchedd yn raddol.
Trafnidiaeth yw'r sector sydd yn achosi'r llygredd mwyaf yn y Deyrnas Unedig. Roedd yn cynrychioli traean o holl allyriadau CO2 y wlad cyn cychwyn y pandemig.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: intelligentcarleasing