Newyddion S4C

Yr Eisteddfod Genedlaethol: Beth sydd ar y Maes eleni?

Yr Eisteddfod Genedlaethol: Beth sydd ar y Maes eleni?

Bydd Eisteddfod Rhondda Cynon Taf yn agor ei giatiau ddydd Sadwrn.

Mae'r brifwyl yn cael ei chynnal ym Mharc Ynysangharad yng nghanol tref Pontypridd eleni.

Y tro diwethaf i Eisteddfod gael ei chynnal ynghanol tref neu ddinas oedd Eisteddfod Caerdydd yn 2018.

Mae disgwyl i filoedd i heidio i'r parc dros yr wythnos nesaf ar gyfer yr ŵyl, felly beth sydd ar faes yr Eisteddfod y flwyddyn yma?

Cylch yr Orsedd

Yn agos at y brif fynedfa mae cerrig enwog Cylch yr Orsedd.

Eleni yw’r tro cyntaf i Mererid Hopwood gymryd yr awenau fel yr archdderwydd a derbyn aelodau newydd i’r orsedd.

Os ydych chi’n awyddus i weld Gorsedd y Beirdd yn ei holl ysblander bydd yr aelodau newydd yn cael eu derbyn ddydd Llun a dydd Gwener.

Mae'r anrhydeddau blynyddol yn cael eu rhannu i dri chategori: 

  • Y Wisg Werdd am gyfraniad i'r celfyddydau; 
  • Y Wisg Las i'r rhai sy'n amlwg ym myd y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduraeth, y Cyfryngau, gweithgaredd bro / neu genedl; 
  • Y Wisg Wen i enillwyr prif wobrau'r Eisteddfod Genedlaethol yn unig.
Image
Lido Ponty

Lido Ponty

Ydych chi wedi cofio eich dillad nofio?

Mae ambell i bwll mwdlyd wedi bod ar faes yr Eisteddfod dros y blynyddoedd – ond am y tro cyntaf eleni fe fydd yna bwll nofio go iawn.

Fydd hyd at 1,000 o bobl y diwrnod yn gallu nofio yn Lido Ponty - a’r holl sydd angen ei wneud yw archebu tocyn sesiwn nofio.

Mae'r lido wedi ei leoli yn agos at arwydd mawr coch 'Eisteddfod' ger gwaelod y maes.

Agorodd y lido yn 1927 ac yn ôl y sôn, hwn oedd y pwll nofio awyr-agored mwyaf yng Nghymru ar y pryd.

Llwyfan y maes

O’r Lido draw at Lwyfan y Maes lle bydd prif arlwy nos yr Eisteddfod.

Yws Gwynedd, Dafydd Iwan, Gwilym, Eden a llawer mwy, fydd nifer o sêr cerddoriaeth Cymraeg yn perfformio.

Roedd Bwncath wedi torri record llynedd am y dorf fwyaf ar gyfer gig ar Lwyfan y Maes.

Roedd 11,000 o bobl wedi gwylio'r band ym Moduan.

Y record flaenorol oedd torf o 9,000, pan y gwnaeth Bryn Fôn a'r Band berfformio ar Lwyfan y Maes yn Llanrwst yn 2019.

Peidiwch anghofio am y corau a sioeau Cyw fydd hefyd ar gael i’w gweld ar y llwyfan trwy gydol yr wythnos.

Image
Y Bandstand

Y Bandstand

Yn aros gyda cherddoriaeth, ydych chi’n hoff o fandiau pres?

Mae’r bandstand yn un o atyniadau’r parc a fydd yn llwyfan i gorau, bandiau a beirdd.

Wedi ei leoli ychydig gamau o Lwyfan y Maes, fe fydd y bandstand yn cynnig adloniant trwy gydol yr wythnos.

Cafodd y bandstand ei ychwanegu fel canolbwynt i’r parc yn 1926. 

Mae’r llwyfan yn adlewyrchu’r farn Fictoraidd y dylai gweithgareddau hamdden gynnwys diwylliant, ac mae’r ardal wedi’i amgylchynu gan welyau blodau tymhorol. 

Daw pobl i eistedd i’r llecyn cylchol suddedig ffurfiol ei naws, ac mae’n cael ei ddefnyddio ar gyfer cyngherddau ac yn fan poblogaidd ar gyfer lluniau priodas.

Y Pafiliwn

Yn wahanol i’r Eisteddfod ym Moduan fydd un pafiliwn yn unig ar y maes eleni.

Wedi ei leoli rhwng y pentref bwyd a’r stondinau mae rhywbeth at ddant pawb yno, o’r cystadlu i’r coroni.

Dyna i chi flas ar yr hyn sydd ar faes yr Eisteddfod eleni.

Mae nifer o bethau gwahanol i bawb o bob oedran ar gael o 3 Awst i 10 Awst.

Ar ddiwrnod cyntaf y brifwyl byddwn ni i gyd yn gobeithio am un peth - sef tywydd braf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.