11,000 o bobl wedi gwylio Bwncath ar faes y Brifwyl nos Sul
11,000 o bobl wedi gwylio Bwncath ar faes y Brifwyl nos Sul
Fe wnaeth y nifer uchaf erioed o bobl ddod i wylio band yn canu ar Lwyfan y Maes ar nos Sul.
Roedd cyfanswm o 11,000 o bobl yn gwylio Bwncath ym Moduan eleni, sef y dorf fwyaf hyd yma ar nos Sul agoriadol y brifwyl.
Y record flaenorol oedd torf o 9,000, pan y gwnaeth Bryn Fôn a'r Band berfformio ar Lwyfan y Maes yn Llanrwst yn 2019.
Mae'r band poblogaidd Bwncath wedi cael haf llwyddiannus hyd yma, gan berfformio yng ngŵyl Tafwyl yng Nghaerdydd yng nghanol Gorffennaf, a byddant hefyd yn perfformio ar lwyfan Maes B i gloi'r ŵyl ym Moduan nos Sadwrn.
Bydd nifer o artistiaid eraill yn perfformio ar Lwyfan y Maes yn ystod yr wythnos, gan gynnwys Band Pres Llareggub, Sŵnami, Cowbois Rhos Botwnnog a Candelas.
Llun: Efa Ceiri