Cyhoeddi enwau'r Cymry sydd yn cael eu derbyn i'r Orsedd eleni
Cyhoeddi enwau'r Cymry sydd yn cael eu derbyn i'r Orsedd eleni
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi enwau'r unigolion fydd yn cael eu derbyn i'r Orsedd drwy anrhydedd eleni.
Bydd y sawl ar y rhestr yn cael eu anrhydeddu yn y Brifwyl yn Rhondda Cynon Taf am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i'w cymunedau lleol.
Yn unol â threfniadau Urddau er Anrhydedd Gorsedd Cymru, mae pob aelod newydd yn dod yn aelod ar yr un gwastad, sef fel Derwydd.
Mae'r anrhydeddau blynyddol yn cael eu rhannu i dri chategori:
- Y Wisg Werdd am gyfraniad i'r celfyddydau;
- Y Wisg Las i'r rhai sy'n amlwg ym myd y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduraeth, y Cyfryngau, gweithgaredd bro / neu genedl;
- Y Wisg Wen i enillwyr prif wobrau'r Eisteddfod Genedlaethol yn unig.
Ymysg y bobl fydd yn derbyn y Wisg Werdd mae Angharad Lee, sy'n gyfrifol am gynhyrchu'r ddrama gerdd Nia Ben Aur fydd yn cael ei pherfformio yn yr Eisteddfod eleni; a dirprwy bennaeth Ysgol Llwyncelyn yn y Rhondda, Elin Llywelyn-Williams, sy'n arwain Côr yr Eisteddfod eleni.
Hefyd yn derbyn y Wisg Werdd fydd Derrick Rowlands, a weithiodd yn ddiwyd i godi proffil y Gymraeg o fewn y Gymdeithas Corau Meibion Cymru; Anna ap Robert, swyddog creadigol gyda Theatr Felin-fach a thiwtor Cymraeg i oedolion ym Mhrifysgol Aberystwyth; a'r cerddor Meilyr Tomos, sydd yn teithio o amgylch cartrefi gofal yn ardal Sir Benfro i ddiddanu’r preswylwyr, ac yn perfformio ym mhabell Cytûn ar Faes yr Eisteddfod yn flynyddol.
Ymysg y bobl fydd yn derbyn y Wisg Las mae’r cyn-bostfeistr Noel Thomas, a gafodd ei garcharu ar gam yn 2006 am gadw cyfrifon ffug yn Swyddfa’r Post y Gaerwen, Ynys Môn; y darlledwr Gerallt Pennant, sy'n wyneb cyfarwydd ar rai o raglenni mwyaf poblogaidd S4C; Elfed Roberts, cyn-prif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol tan 2018; a Rhuanedd Richards, cyfarwyddwr BBC Cymru.
Bydd y gweinidog Rosa Hunt hefyd yn derbyn y Wisg Las am ei chyfraniad "aruthrol" i’w chymuned yn ardal Ton-teg, Pontypridd.
Yn ogystal bydd mam a merch yn cael eu hanrhydeddu gan yr Orsedd eleni.
Bydd Elinor Snowsill, cyn-chwaraewr tîm rygbi cenedlaethol Cymru, yn derbyn y Wisg Las a bydd ei mam Nerys Howells, yr arbenigwr bwyd yn derbyn y Wisg Werdd am ei gwaith yn rhoi cynnyrch Cymreig ar y map byd-eang.
Bydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2024 yn cael ei chynnal yn Rhondda Cynon Taf rhwng 3-10 Awst.
Urddau'r Orsedd Eisteddfod Rhondda Cynon Taf:
Gwisg Werdd
- Jane Aaron - Aberystwyth
- Anna ap Robert - Aberystwyth
- Simon Chandler - Manceinion
- Elgan Philip Davies - Aberystwyth
- Owenna Davies - Ceredigion
- Anne England - Aber-fan
- Nerys Howell - Caerdydd
- Angharad Lee - Tonyrefail
- Elin Llywelyn Williams - Pont-y-clun
- Helena Miguelez-Carballeira - Bangor
- Mari Morgan - Llanelli
- Catrin Rowlands - Abertawe
- Derrick Rowlands - Bont-iets
- Mike Parker - Kidderminster
- Shân Eleri Passmore - Caerdydd
- Siwan Rosser - Caerdydd
- Peter Spriggs - Arberth
- Llinos Swain - Caerdydd
- Meilyr Hedd Tomos - Abergwaun
- Gareth Williams - Pontypridd
- Siân Rhiannon Williams - Barri
Gwisg Las
- Delyth Badder - Pontypridd
- Carol Bell - Llundain
- Jamie Bevan - Merthyr Tudful
- Dafydd Trystan Davies - Caerdydd
- Geraint Davies - Treherbert
- Michelle Davies - Llangamarch
- Joseff Gnagbo - Caerdydd
- Margot Ann Phillips Griffith - Wellington
- Gill Griffiths - Pentyrch
- Rosa Hunt - Pentre'r Eglwys
- Awen Iorwerth - Rhondda
- Gethin Lloyd James - Llanarthne
- Theresa Mgadzah Jones - Caerdydd
- David Lloyd-Jones - Pontypridd
- Gerallt Pennant - Eifionydd
- Ian Wyn Rees - Porth Tywyn
- Rhuanedd Richards - Pontypridd
- David Roberts - Caerffili
- Elfed Roberts - Caerdydd
- Elinor Snowsill - Pont-y-clun
- Derec Stockley - Cefneithin
- Hazel Thomas - Crucywel
- John Thomas - Abertawe
- Meleri Tudur Thomas - Caernarfon
- Noel Thomas - Gaerwen
- Mark Vaughan - Pontarddulais
- Megan Williams - talaith Efrog Newydd
- Ynys Williams - Trawsfynydd