
Cymru allan o Euro 2025 ar ôl colli yn erbyn Lloegr
Mae Cymru allan o Euro 2025 ar ôl colli yn erbyn Lloegr o 6-1 yng ngêm olaf Grŵp D nos Sul.
Cymru sydd ar waelod y grŵp ar ôl tair colled yn olynol yn erbyn Yr Iseldiroedd, Ffrainc a Lloegr.
Fe wnaeth Cymru dri newid i'r tîm a gollodd yn erbyn Ffrainc o 4-1 nos Fercher, gydag Olivia Clark yn dychwelyd yn y gôl.
Roedd Rhiannon Roberts yn ôl yn y tîm, a Carrie Jones yn dechrau yn y gystadleuaeth am y tro cyntaf.
Roedd angen i Gymru guro Lloegr o bedair gôl er mwyn cael unrhyw gyfle o barhau yn y bencampwriaeth.
Dim ond dau dîm o'r grŵp sydd yn mynd ymlaen i'r chwarteri, sef Lloegr a Ffrainc, wedi iddyn nhw drechu'r Iseldiroedd o 4-2.
Dyma'r tro cyntaf i fenywod Cymru gyrraedd prif gystadleuaeth.
Hanner cyntaf
Fel y disgwyl, Lloegr oedd yn hawlio'r meddiant ym munudau agoriadol y gêm, gyda Chymru yn gorfod bod yn gadarn yn eu hamddiffyn.
Ond daeth cyfle i Loegr fynd ar y blaen wedi 10 munud o chwarae ar ôl i Carrie Jones faglu Georgia Stanway.
Er fod y dyfarnwr wedi rhoi cic rydd i Loegr ychydig y tu allan i'r cwrt cosbi, fe wnaeth VAR ddyfarnu fod y dacl wedi digwydd y tu mewn i'r cwrt cosbi, gan olygu cic o'r smotyn i Loegr.
Sgoriodd Stanway, gan roi Lloegr ar y blaen o 1-0.

Fe aeth pethau o ddrwg i waeth i Gymru ar ôl 20 munud, gyda Rhiannon Roberts yn clirio'r bêl oddi ar chwaraewr Lloegr ond roedd Olivia Clark yn rhy araf o'i llinell, gan ganiatáu i Alessia Russo hawlio'r bêl.
Fe basiodd Russo y bêl i Ella Toone, a ddaeth o hyd i gefn y rhwyd ar ei hail ymgais gan ei gwneud hi'n 2-0.
Ychydig funudau wedyn yn unig, fe gynyddodd mantais Lloegr, gyda Toone yn croesi i Lauren Hemp, a wnaeth benio'r bêl i gefn y rhwyd.
Roedd Lloegr yn mwynhau eu hunain a Chymru yng nghanol hunllef wrth i'r hanner cyntaf dynnu at ei derfyn.
Fe wnaeth Lauren James ac Ella Toone gyfuno, gyda Toone yn pasio'r bêl drwy amddiffyn Cymru i Russo, oedd yn rhydd i ergydio, a sgorio, gyda dim chwaraewr Cymru yn agos ati.
4-0 oedd y sgôr ar ddiwedd yr hanner cyntaf.
Ail hanner
Daeth Josie Green ymlaen ar ddechrau'r hanner gyda Lily Woodham yn gadael y cae.
Roedd Lloegr yn parhau i fygwth, gan ddod yn agos at ei gwneud hi'n 5-0 wedi i'r eilydd Jess Park ergydio.
Roedd rhagor o newidiadau i Gymru wedi 60 munud, gyda Hannah Cain a Hayley Ladd yn dod ymlaen fel eilyddion, a Rachel Rowe a Ceri Holland yn gadael y cae.
Er fod Cymru wedi llwyddo i dawelu'r dyfroedd ychydig yn yr ail hanner, roedd Lloegr yn parhau i chwilio am y bumed gôl.
Ar ôl 73 munud, fe basiodd Beever-Jones y bêl i Beth Mead, a wnaeth reoli'r bêl yn gyfforddus yn y cwrt cosbi a sgorio.
Ond fe ddaeth yr eiliad aur i Gymru wedi 77 munud, gyda Hannah Cain yn sgorio i Gymru.
Fe wibiodd Jess Fishlock drwy ganol y cae, cyn pasio i Cain a ergydiodd yn bwerus i gornel uchaf y rhwyd.
Roedd Hen Wlad Fy Nhadau i'w chlywed yn fyddarol gan Y Wal Goch wrth i'r gêm dynnu at ei therfyn.
Ond roedd gan Loegr amser i'w gwneud hi'n 6-1 cyn diwedd y gêm, gyda Beever-Jones yn sgorio.
Wedi 90 munud ag ambell i funud ychwanegol o chwarae, fe chwythodd y dyfarnwr y chwiban olaf, gyda'r sgôr terfynol yn 6-1 i Loegr.
Diwedd y daith i Gymru yn Euro 2025, ond dechrau taith newydd i bêl-droed menywod ar ôl i'r garfan ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf.