Wimbledon: Sinner yn curo Alcaraz yn rownd derfynol senglau'r dynion
Mae Jannik Sinner wedi curo Carlos Alcaraz yn rownd derfynol senglau'r dynion yn Wimbledon.
Dyma'r tro cyntaf i Sinner ennill y gystadleuaeth.
Alcaraz enillodd y set gyntaf, ond fe frwydrodd Sinner yn ôl i ennill gweddill y setiau ar ôl llwyddo i dorri serf ei wrthwynebydd.
Roedd Alcaraz yn gobeithio ennill y gystadleuaeth am y drydedd flwyddyn yn olynol.
Alcaraz oedd yn fuddugol yn erbyn Sinner yn rownd derfynol Pencampwriaeth Agored Ffrainc 35 diwrnod yn unig yn ôl.
Iga Świątek oedd yn fuddugol yn senglau'r menywod ar ôl iddi hi drechu Amanda Anisimova o 6-0 a 6-0 ddydd Sadwrn.