Newyddion S4C

'Angen symud ymlaen': Jane Dodds yn ychwanegu at alwadau i Vaughan Gething ymddiswyddo

14/07/2024
Gething / Dodds

Mae arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds, wedi ychwanegu at alwadau i’r Prif Weinidog Vaughan Gething ymddiswyddo.

Mae Mr Gething yn wynebu ail bleidlais diffyg hyder ddydd Mercher yn dilyn cynnig yn y Senedd gan y Ceidwadwyr Cymreig.

Daw wedi i Mr Gething golli pleidlais diffyg hyder ynddo gan Aelodau’r Senedd fis Mehefin.

Daeth Mr Gething yn arweinydd ar Lafur Cymru fis Mawrth ar ôl ennill ras arweinyddiaeth y blaid.

Mae Mr Gething wedi bod dan bwysau wedi iddo dderbyn rhoddion o £200,000 ar gyfer ei ymgyrch arweinyddol gan gwmni oedd a'i berchennog wedi ei gael yn euog o droseddau amgylcheddol.

Cafodd Mr Gething ei feirniadu am ei benderfyniad i sacio Hannah Blythyn o'i swydd yn y llywodraeth, wedi honiadau bod gwybodaeth wedi ei ryddhau i'r wasg, a hynny heb ddangos unrhyw dystiolaeth i gefnogi'r penderfyniad.

Mae Ms Blythyn wedi gwadu'r honiad ac wythnos yma, fe wnaeth drafod ei diswyddiad a’r sgil effeithiau ar ei hiechyd meddwl, ar lawr y Senedd.

Mae Mr Gething wedi dweud yn ddiweddarach nad oedd erioed wedi honni bod Ms Blythyn wedi rhyddhau gwybodaeth yn uniongyrchol i’r wasg, gan ddweud ei fod yn glir bod y wybodaeth wedi dod yn uniongyrchol o ffôn Hannah Blythyn.

'Pwysau aruthrol'

Wrth drafod yr ail bleidlais diffyg hyder ar raglen Sunday Supplement ar Radio Wales, dywedodd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds: “Rwyf wedi bod yn glir iawn, ac rwyf wedi bod ychydig yn wahanol i'r gwrthbleidiau yn yr ystyr imi ei gefnogi fel Prif Weinidog yn ôl ym mis Mawrth.

“Roeddwn i eisiau rhoi cyfle iddo, ac yn amlwg roedd mater y rhodd o £200,000 yn dal i fod, ond roeddwn i eisiau rhoi cyfle iddo. Ar 1 Mai yn y Siambr, gofynnais iddo ei dalu’n ôl. Dyna fyddai ei diwedd hi, wedi’i orffen.

“Ac yna awn i'r ddadl dim hyder, a dim gweithredu o hyd. Nawr mae gweithredoedd yn siarad yn uwch na geiriau. Ac yn anffodus i mi, rwyf wedi dod at y pwynt lle nad oes gennyf, fel eraill yn y Siambr, hyder yn y Prif Weinidog.

"Ac mae'r mater gyda Hannah wedi cadarnhau hynny mewn gwirionedd, yn anffodus, ac mae wedi bod yn drist iawn. Nid wyf yn gwneud hyn gyda gorfoledd neu mewn ffordd fuddugoliaethus.

“Rwy’n poeni am iechyd meddwl pobl, nid yn unig iechyd meddwl Hannah, ond eraill hefyd. Rwy’n siŵr bod y Prif Weinidog o dan bwysau aruthrol. Mae hyn yn rhywbeth sydd angen symud ymlaen.”

'Digynsail'

Image
Tom Giffard
Tom Giffard AS

Dywedodd yr Aelod Ceidwadol, Tom Giffard AS, mai gobaith y blaid wrth alw am ail bleidlais diffyg hyder, oedd gorfodi Mr Gething i gyhoeddi'r dystiolaeth oedd yn sail i ddiswyddo Ms Blythyn.

“Rydym wedi cymryd cam digon digynsail o ddefnyddio Deddf Llywodraeth Cymru er mwyn gorfodi Vaughan Gething i gyhoeddi’r dystiolaeth a ddefnyddiodd i ddiswyddo’r gweinidog, yn yr achos hwn.

“Mae'n ymddangos ei fod yn benderfyniad a gymerodd oddi ar ei gefn ei hun. Nid yw'n ymddangos iddo fynd drwy gyngor moeseg Llywodraeth Cymru na dim byd felly. Mae’n ymddangos ei fod yn benderfyniad mae Vaughan Gething wedi dweud iddo gymryd.

“Dyma Brif Weinidog Cymru. Sut y mae'n fodlon, fel y clywsom yn y clip hwnnw, i hyn wyro drosto, i'r ansicrwydd a'r gwrth-ddweud hwn fod wrth wraidd ei lywodraeth? Mae wedi parlysu ei lywodraeth yn llwyr, gan ddangos diffyg barn llwyr.”

'Ffyddiog'

Ddydd Iau dywedodd gwefan Nation.Cymru, a dderbyniodd y negeseuon, nad gan Hannah Blythyn oedden nhw wedi dod.

Dywedodd prif weithredwr y wefan eu bod nhw wedi dod i’r penderfyniad ar ôl gweld y “poen meddwl” yr oedd y mater wedi ei achosi i Hannah Blythyn.

Wrth ymateb i Nation.Cymru, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ddydd Iau eu bod nhw'n ffyddiog mai o ffôn Hannah Blythyn ddaeth y lluniau o’r sgwrs.

Roedd hynny oherwydd bod manylion oedd yn dangos hynny wedi eu cynnwys yn y llun o'r sgrin anfonwyd at Lywodraeth Cymru gan newyddiadurwr Nation.Cymru.

“Mae’r fersiwn heb ei olygu o’r sgrin a anfonwyd at Lywodraeth Cymru gan newyddiadurwr yn nodi perchennog y ffôn y daeth y sgrinlun ohono," medden nhw.

"Mae'r Prif Weinidog wedi ei gwneud yn glir dro ar ôl tro nad oedd yn barod i ryddhau'r fersiwn hon heb ei golygu oni bai bod pob unigolyn y gellir eu hadnabod ar y sgwrs yn cytuno i'w ryddhau."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.