Gething ‘erioed wedi honni' mai Hannah Blythyn gysylltodd â Nation.Cymru
Gething ‘erioed wedi honni' mai Hannah Blythyn gysylltodd â Nation.Cymru
Mae Vaughan Gething wedi dweud nad oedd erioed wedi honni bod cyn aelod o'r cabinet a gafodd ei diswyddo ganddo wedi rhyddhau gwybodaeth yn uniongyrchol i’r wasg.
Dywedodd serch hynny ei fod yn glir bod y wybodaeth wedi dod yn uniongyrchol o ffôn Hannah Blythyn.
Penderfynodd ddiswyddo'r Aelod o Senedd Cymru dros etholaeth Delyn o'r cabinet ym mis Mai ar ôl i'r negeseuon ddod i'r amlwg.
Ond mae Hannah Blythyn wedi mynnu ers hynny nad hi oedd wedi rhyddhau y wybodaeth i’r wasg.
Ddydd Iau, dywedodd Nation.Cymru nad Hannah Blythyn oedd eu ffynhonnell ar gyfer y negeseuon.
Fe ymddangosodd Vaughan Gething o flaen y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog ym Mharc y Scarlets ddydd Gwener.
“Pan mae’n dod at y dystiolaeth does yna ddim anghysondeb yn beth ydw i wedi ei ddweud,” meddai.
“Dydw i erioed wedi trio honni bod Hannah Blythyn wedi cysylltu efo Nation.Cymru yn uniongyrchol.
“Rydw i wedi bod yn glir iawn mae’r dystiolaeth sydd gen i ydy bod llun o'i ffôn wedi'i ddarparu i Nation.Cymru.
“Mae gweinidogion yn gyfrifol am eu data eu hunain.
“Fe ymddangosodd llun ym mis Mai yn nwylo newyddiadurwr, ac mae hynny’n effeithio'n uniongyrchol ar ymddiriedaeth o fewn y llywodraeth.
“Os nad ydych chi'n teimlo y gallwch ymddiried mewn pobl, mae'n effeithio ar yr hyn rydych chi'n ei ddweud a sut rydych chi'n ei ddweud.
“Dyna pam y gwnes i’r dewis anodd iawn, oherwydd dyna yn fy marn i oedd y peth iawn i'w wneud.”
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1811757086243480031
Ddydd Iau dywedodd gwefan Nation.Cymru, a dderbyniodd y negeseuon, nad gan Hannah Blythyn oedden nhw wedi dod.
Dywedodd prif weithredwr y wefan eu bod nhw wedi dod i’r penderfyniad ar ôl gweld y “poen meddwl” yr oedd y mater wedi ei achosi i Hannah Blythyn.
Dywedodd Mark Mansfield: “Mae amddiffyn ffynonellau yn bwysig iawn i bob newyddiadurwr ac rydyn ni’n cymryd y cyfrifoldeb hwnnw o ddifrif.
“Mae’n bwysig bod chwythwyr chwiban yn gallu bod yn dawel eu meddwl na fydd unrhyw wasanaeth newyddion yn datgelu pwy ydynt.
“Fel rheol mae'n dilyn na fyddwn yn cynnal trafodaeth gyhoeddus ynghylch pwy a allai fod wedi bod yn ffynhonnell straeon yr ydym yn eu cyhoeddi.
“Mae digwyddiadau’r wythnos hon, fodd bynnag, wedi ein hysgogi i ystyried yn ofalus oblygiadau datganiad personol Hannah Blythyn i’r Senedd ddydd Mawrth ac ymateb Vaughan Gething iddo ddydd Mercher.”
Ychwanegodd: “Gallwn ddatgan yn ddiamwys nad yw Mr Gething yn dweud y gwir pan mae’n awgrymu bod ganddo dystiolaeth gadarn mai Ms Blythyn oedd ein ffynhonnell.”
Ymateb
Wrth ymateb i Nation.Cymru dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ddydd Iau eu bod nhw'n ffyddiog mai o ffôn Hannah Blythyn ddaeth y lluniau o’r sgwrs.
Roedd hynny oherwydd bod manylion oedd yn dangos hynny wedi eu cynnwys yn y llun o'r sgrin anfonwyd at Lywodraeth Cymru gan newyddiadurwr Nation.Cymru.
“Mae’r fersiwn heb ei olygu o’r sgrin a anfonwyd at Lywodraeth Cymru gan newyddiadurwr yn nodi perchennog y ffôn y daeth y sgrinlun ohono," medden nhw.
"Mae'r Prif Weinidog wedi ei gwneud yn glir dro ar ôl tro nad oedd yn barod i ryddhau'r fersiwn hon heb ei golygu oni bai bod pob unigolyn y gellir eu hadnabod ar y sgwrs yn cytuno i'w ryddhau."