Cwis Mawr y Flwyddyn 2025
A ninnau ar drothwy blwddyn newydd arall, faint ydych chi'n ei gofio am yr hyn ddigwyddodd yn ystod 2025?
Rhowch gynnig ar Gwis Mawr y Flwyddyn Newyddion S4C.
Fe fydd yr atebion yn ymddangos ar ein gwefan ar 1 Ionawr. Pob lwc!
1) Pwy ddaeth yn fuddugol yn y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025?
2) Fe gafodd angladd cyn ddirprwy brif weinidog y DU ei gynnal yn Hull ddiwedd mis Ionawr. Angladd pwy oedd o?
3) Colli'n drwm oedd hanes tîm rygbi Cymru yn erbyn De Affrica yng Nghyfres yr Hydref. Beth oedd y sgôr?
4) Pêl-droed: Fe roddodd Cymru grasfa 7-1 i Ogledd Macedonia ym mis Tachwedd. Fe sgoriodd Harry Wilson hatric. Pa bedwar Cymro arall sgoriodd yn y gêm honno?
5) Fe ddaeth yr opera sebon boblogaidd Neighbours i ben am y tro olaf eleni. Ym mha flwyddyn y cafodd y gyfres ei darlledu gyntaf?
6) Bu farw'r actor Gene Hackman yn 95 oed ym mis Chwefror. Pa gymeriad dieflig yr oedd o'n ei actio mewn nifer o ffilmiau Superman?
7) Ym mis Mai fe roddodd mam y cymeriad Peppa Pig enedigaeth i aelod newydd o'r teulu. Beth oedd enw chwaer newydd Peppa?
8) Pwy roddodd y gorau i'w swydd ym mis Chwefror fel prif hyfforddwr rygbi Cymru ar ôl colli 14 o gemau prawf ?
9) Ym mha fis y dechreuodd Oasis ar eu taith ryngwladol drwy berfformio ar ddwy noson yng Nghaerdydd?
10) Pa wlad y gwnaeth Donald Trump fygwth ei chipio fel 51fed talaith yr UDA ym mis Mawrth?
11) Yn lle cafodd Eisteddfod yr Urdd ei chynnal eleni?
12) Ym mis Hydref fe ddaeth cyfnod Michael D. Higgins fel Arlywydd Iwerddon i ben wedi 14 o flynyddoedd. Pwy ddaeth yn ei le?
13) Cafodd mamoth yn Amgueddfa Cymru ei enwi ym mis Tachwedd yn dilyn pleidlais gan y cyhoedd. Beth yw ei enw?
14) Daeth enw'r gadwyn o siopau WH Smith i ben eleni. Pa enw sydd yn cael ei ddefnyddio yn ei le ar eu siopau bellach?
15) Cafodd cyn arweinydd Reform yng Nghymru, Nathan Gill, ei garcharu ym mis Tachwedd am lwgrwobrwyo. Beth oedd hyd ei ddedfryd?
16) Beth oedd enw'r ceffyl buddugol yn ras y Grand National ym mis Ebrill?
17) Rygbi: Pwy gafodd ei ddewis yn gapten ar y Llewod ym mis Mai?
18) Ym mha ddinas yn yr UDA y cafodd y Pab Leo XiV ei eni?
19) Beth oedd enw'r ymgeisydd buddugol yn is-etholiad Caerffili ar gyfer Senedd Cymru ym mis Hydref?
20) Fe ddaeth y ddrama 'Mr Bates Vs The Post Office' i'r brig yng ngwobrau BAFTA ym mis Mai. Beth yw enw'r actor a chwaraeodd ran Syr Alan Bates?
21) Pa gyn-bencampwr bocsio'r byd a fu farw'n 46 oed ym mis Medi?
22) Pa gyflwynydd BBC Radio Wales adawodd yr orsaf ym mis Mai?
23) Pa gerddor enwog ddaeth yn gyd-berchennog ar Glwb Pêl-droed Abertawe eleni?
24) Pwy oedd ennillydd Gwobrau Gerddoriaeth Gymreig 2025 gyda'r albwm Tyrchu Sain?
25) Cafodd y ddynes gyntaf erioed ei dewis i fod yn arweinydd ar Gyngor Conwy ym mis Awst. Beth yw ei henw?
26) Pa gyn aelod o'r cabinet Ceidwadol a chyfaill agos i Margaret Thatcher fu farw'n 94 oed ym mis Gorffennaf?
27) Beth yw enw ci Aaron Ramsey aeth ar goll ym Mecsico ym mis Hydref?
28) Pwy gipiodd Gwobr Goffa Daniel Owen yn y Brifwyl yn Wrecsam eleni?
29) Cafodd achos cyfreithiol yn erbyn aelod o Kneecap ei daflu allan o'r llys ym mis Medi. Beth yw enw'r aelod?
30) Fe wnaeth Jess Fishlock ymddeol o chwarae pêl-droed rhyngwladol ym mis Hydref. Sawl cap rhyngwladol gafodd hi cyn ymddeol?
31) Cafodd y fenyw gyntaf erioed ei phenodi'r Archesgob Caergaint eleni. Beth yw ei henw?
32) Ym mha ddinas yng Nghymru y bu Bob Dylan yn perfformio ynddi eleni?
33) Bu farw cyn seren Lerpwl, Wrecsam a Chymru Joey Jones yn 70 oed ym mis Gorffennaf. Ym mha dref y cafodd ei eni?
34) Beth oedd enw 12fed albwm Taylor Swift gafodd ei rhyddhau ym mis Hydref?
35) Beth yw enw'r awdures a ddywedodd ym mis Medi y byddai mewn perygl o gael ei harestio os byddai'n teithio i Brydain, wedi iddi leisio ei chefnogaeth i Palestine Action?
36) Bu farw'r actor Robert Redford eleni yn 89 oed. Pa actor arall oedd yn serennu gydag o yn y ffilm 'All The President’s Men?'
37) Ym mha dalaith yn America y cafodd Charlie Kirk ei lofruddio ym mis Medi 2025?
38) Lle yng Nghymru yw'r man hapusaf i fyw ynddo yn ôl un arolwg gafodd ei gyhoeddi eleni?
39) Pa grŵp roc o Gymru gyhoeddodd eu bod yn ailffurfio ar gyfer cyfres y gyngherddau yn 2026?
40) Fe gyhoeddodd y Blaid Werdd eu bod wedi dewis arweinydd newydd eleni. Beth yw ei enw?
41) Cyhoeddodd yr artist CMAT ei bod yn gohirio nifer o gyngherddau o achos ei hiechyd ym mis Hydref. Beth yw ei henw llawn?
42) Golff: Ewrop oedd yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Ryder Cup eleni. Ym mha wlad fydd y gystadleuaeth yn 2027?
43) Gemwaith aur o pa gyfnod mewn hanes gafodd ei ddwyn o Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan ym mis Hydref?
44) Pwy ennillodd bencampwriaeth Wimbledon eleni - pencampwriaeth y dynion, a'r menywod?
45) Beth oedd enw'r gân a'r artistiaid buddugol yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 2025?
46) Bu farw un o sêr y gyfres gomedi 'Faulty Towers' yn 93 oed eleni. Beth oedd ei henw?
47) Cafodd holl gemau grwpiau Cwpan y Byd FIFA 2026 eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr. Ym mha dair dinas y bydd Cymru'n chwarae ynddynt os bydd carfan Craig Bellamy'n llwyddo i guro eu gemau ail-gyfle?
48) Beth oedd enw cyn fasydd y Stone Roses a fu farw ym mis Tachwedd?
49) Beth oedd gair neu derm Saesneg y flwyddyn yn ôl Gwasg Prifysgol Rhydychen?
50) Pa actor oedd unig seren cynhyrchiad 'Playing Burton' eleni?