Pwy yw Helen Jenner, arweinydd newydd Reform yng Ngymru?

Helen Jenner

Mae Helen Jenner wedi ei dewis yn arweinydd Reform UK yng Nghymru.

Fore Llun, fe ddaeth aelodau Reform yn Senedd Cymru at ei gilydd er mwyn pleidleisio dros arweinydd newydd.

Roedd Nigel Farage, arweinydd Reform UK hefyd yn bresennol ger mynedfa adeilad Senedd Cymru ar gyfer y cyhoeddiad.

Daw'r penodiad wedi i Dan Thomas, cyn-arweinydd y blaid, gamu i lawr o'i swydd ar 15 Medi ar ôl iddo gael ei arestio ar amheuaeth o ymosod ac ymddwyn mewn modd rheolaethol neu orfodol.

Mae'n dweud nad yw wedi gwneud unrhyw beth o'i le.

Felly pwy yw Helen Jenner?

Cafodd ei geni yng Nghastell-nedd a'i magu ar aelwyd ddi-Gymraeg ym Malltraeth ar Ynys Môn.

Fe astudiodd Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Bangor, cyn mynd i weithio yn y Brit School yn Llundain, sy'n arbenigo yn y celfyddydau a pherfformio.

Symudodd yn ôl i Gymru yn 2019, a threuliodd flynyddoedd yn dysgu Saesneg yn Ysgol David Hughes ar Ynys Môn - ysgol lle bu hi'n ddisgybl.

Yn etholiad cyffredinol y DU yn 2019, fe wnaeth hi sefyll dros y Brexit Party, ac roedd hefyd yn aelod o UKIP yn flaenorol.

Cafodd ei hethol ym mis Mai yn Aelod o Senedd Cymru dros etholaeth Bangor Conwy Môn.

Ym mis Mawrth 2026, cyhoeddwyd Jenner yn arweinydd Reform UK ym Mangor Conwy Môn, cyn iddi gael ei phenodi'n ddirprwy arweinydd y blaid ym mis Ebrill 2026.

Ar ôl i'r cyn-arweinydd Dan Thomas gamu i lawr, fe gafodd Jenner ei gwneud yn arweinydd dros dro, gyda ffynonellau o fewn y blaid wedi awgrymu mai hi oedd yn cael ei hystyried yn ffefryn ar gyfer y swydd.

Ar Gofrestr Buddiannau Senedd Cymru, mae hi'n nodi ei bod yn gweithio ychydig oriau'r wythnos fel tiwtor Saesneg llawrydd, gan diwtora myfyrwyr tramor ar-lein.

Mae hi hefyd yn ysgrifennydd ar bwyllgor sefydliad gwirfoddol o'r enw 'Parc y Plant, Niwbwrch'.

Mae hi'n briod ag Emmett Jenner, sydd hefyd yn weithgar o fewn Reform UK.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.