Tegan newydd yn achosi tân mewn cartref ar Ddydd Nadolig

Tân Dolig

Fe wnaeth tegan newydd achosi tân mewn cartref teulu o'r de ar Ddydd Nadolig, gan greu difrod sylweddol i'w fflat.

Cafodd swyddogion o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw i'r digwyddiad am 21:00 ar 25 Rhagfyr yng Nghaer-went.

Ni chafodd neb eu hanafu yn y digwyddiad.

Mae un o ffrindiau'r teulu oedd yn byw yn y fflat wedi creu apêl codi arian, er mwyn cynnig ychydig o gysur i'r teulu yn dilyn y tân.

Dywedodd neges yr apêl: "Anlwc ar nos Nadolig, roedd car tegan oedd i fod yn "ddiogel" i'w ddefnyddio wedi mynd ar dân a llosgi ei chartref, gyda llawer o ddifrod mwg ac yn anffodus mae wedi colli'r rhan fwyaf o'r anrhegion Nadolig a brynodd i'w phlant, felly hoffwn geisio cael rhywfaint o arian at ei gilydd i'r teulu i'w helpu i'w cael yn ôl ar eu traed. 

"Nid oes unrhyw deulu yn haeddu hyn yn enwedig ar Ddydd Nadolig felly os gallai unrhyw un helpu a rhoi'r hyn y gallant, byddai'n cael ei werthfawrogi'n fawr ac yn gymorth enfawr, boed yn ychydig neu'n llawer, bydd y cyfan yn helpu i'w rhoi ar y trywydd iawn."

 
 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.