Newyddion S4C

Vaughan Gething ddim am ymddiswyddo wedi colli pleidlais o ddiffyg hyder

05/06/2024

Vaughan Gething ddim am ymddiswyddo wedi colli pleidlais o ddiffyg hyder

Mae'r Prif Weinidog Vaughan Gething wedi mynnu na fydd yn ymddiswyddo wedi iddo golli pleidlais o ddiffyg hyder yn y Senedd ddydd Mercher.

Fe gollodd Mr Gething y bleidlais o 29 pleidlais i 27, oherwydd fod dau aelod Llafur yn absennol. 

Wedi'r bleidlais, dywedodd Mr Gething: "Dydw i erioed fel gweinidog wedi gwneud dewis er fy mudd fy hun, nag er mwyn elw ariannol."

Dywedodd ei fod wedi dilyn y rheolau, a'i fod wedi ateb "pob cwestiwn" am roddion y derbyniodd ar gyfer ei ymgyrch.

"Mae clywed cwestiynau am fy ngonestrwydd yn anodd. Anodd am bod nhw'n brifo.

"Mae cael pobl yn sefyll yn y siambr yn gwneud sylwadau mae nhw'n wybod sydd ddim yn wir; nid dyna sut y dylai gwleidyddiaeth weithio."

Dywedodd ei fod yn bwriadu mynd i seremoni yn Ffrainc  i nodi D-Day yfory, a byddai'n parhau yn ei swydd.

"Dyna sut dwi'n teimlo am wasanaethu fy ngwlad, a dyna fy mwriad nawr ac yn y dyfodol."

Ond mae'r pwysau ar Mr Gething wedi cynyddu wedi'r bleidlais, gydag Ysgrifenydd Cymru, David T.C Davies yn galw arno i ymddiswyddo. Mae'r gwrthbleidiau yn y Senedd hefyd wedi galw arno i fynd.

Y Ceidwadwyr Cymreig wnaeth lunio’r cynnig o ddiffyg hyder ar ôl cyfnod cythryblus i’r Prif Weinidog.

Mae Mr Gething wedi bod dan bwysau wedi iddo dderbyn rhoddion o £200,000 ar gyfer ei ymgyrch am arweinyddiaeth y Blaid Lafur Gymreig gan gwmni oedd a'i berchennog wedi ei gael yn euog o droseddau amgylcheddol.

Roedd Mr Gething hefyd wedi gwrthod dangos unrhyw dystiolaeth i gefnogi ei benderfyniad i sacio Hannah Blythyn o'i swydd yn y llywodraeth, wedi iddo honni ei bod hi wedi rhyddhau gwybodaeth i'r wasg. Mae Ms Blythyn wedi gwadu'r honiad.

Dywedodd Llywydd y Senedd Elin Jones: "Mae hi rwan yn amser i'r Prif Weinidog ystyried y bleidlais y mae'r Senedd wedi fynegi. Mae pleidleisiau o hyder yn wleidyddol, ond maen nhw hefyd yn bersonol iawn ac er y bydd goblygiadau i bleidlais o'r math yma, dwi'n gofyn i ni gyd drin ein gilydd gyda pharch a charedigrwydd. Mae pobl Cymru yn disgwyl hynny gan eu Senedd."

Wrth ymateb i ganlyniad y bleidlais, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Andrew RT Davies: "Fe wnaeth Gething a'r Blaid Lafur gymryd arian gan y rhoddwr a wnaeth achosi'r anhrefn yma. 

"Nid am Vaughan Gething yn unig y mae hyn. Mae yna gwestiynau difrifol ar gyfer Syr Keir Starmer hefyd."

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AS: "Mae'r Senedd wedi siarad ar ran pobl Cymru - nid oes gennym hyder ym Mhrif Weinidog Llafur Cymru. 

"Gan na wnaeth pob aelod Llafur ei gefnogi yn y bleidlais heno, mae'n rhaid i Vaughan Gething wneud y peth anrhydeddus ac ymddiswyddo i sicrhau nad oes unrhyw ansefydlogrwydd pellach yn rhengoedd Llywodraeth Lafur Cymru."

Ychwanegodd Jane Dodds AS, Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: "Mae’r Senedd wedi siarad a nawr rhaid i Vaughan Gething fynd. Byddai unrhyw ymgais i ddal gafael ar rym yn mynd yn groes i normau sefydledig ein democratiaeth seneddol.

"Heb fandad y Senedd, does gan y Prif Weinidog ddim hawl i aros yn ei swydd, mae democratiaeth Cymru wedi cael dweud ei dweud a nawr mae’n rhaid iddo fynd.”

'Trylowyder a gonestrwydd'

Wrth agor y drafodaeth yn y Senedd brynhawn Mercher, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R. T Davies, nad oedd y cynnig o ddiffyg hyder yn ymwneud â Llywodraeth Cymru yn ei gyfanrwydd, nac ychwaith y grŵp Llafur na'r blaid Lafur. 

Yn hytrach roedd yn ymwneud â'r modd roedd Vaughan Gething wedi ymddwyn yn ei gyfnod fel Prif Weinidog, ac yn ystod yr ymgyrch i fod yn arweinydd y Blaid Lafur Gymreig.

"Mae hyn yn ymwneud â'i benderfyniadau, trylowyder a gonestrwydd," meddai.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, fod Cymru ar y cyfan wedi bod yn ffodus i fod wedi osgoi sgandalau ariannol difrifol yn ystod 25 mlynedd cyntaf datganoli.

Ond ychwanegodd: "Mae heddiw yn ddiwrnod difrifol iawn yn hanes y Senedd am ein bod ni o'r farn fod y Prif Weinidog nid yn unig wedi colli ein hyder ni ond wedi colli hyder dinsasyddion Cymru."

Ond dywedodd Vikki Howells o'r Blaid Lafur fod cynnig y Ceidwadwyr yn "wleidyddiaeth ar ei waethaf - "gimmick" sinicaidd i dynnu sylw oddi ar Rishi Sunak a'i gyfeillion cyfoethog."

Roedd Vaughan Gething yn ymddangos yn ei ddagrau yn ystod araith Ms Howells.

Awgrymodd aelod Llafur arall, Hefin David, fod lliw croen Vaughan Gething yn ffactor yng nghymhellion rhai pobl "y tu allan i'r  Siambr" oedd eisiau ei "dorri".

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.