Awyren yn glanio ar frys wedi i dyrfedd anafu 30 ar hediad i Wrwgwái
Mae awyren a gafodd ei tharo gan dyrfedd (turbulence) cryf wedi gorfod glanio ar frys ym Mrasil, gyda 30 o bobl wedi eu hanafu.
Roedd yr awyren yn hedfan o Fadrid i Montevideo pan ddigwyddodd y tyrfedd, yn ôl cwmni hedfan Air Europa.
Cafodd yr awyren ei dargyfeirio i faes awyr Natal yng ngogledd-ddwyrain Brasil ar ei ffordd i brifddinas Wrwgwái yn ôl y cwmni.
Dywedodd tîm meddygol lleol wrth y wasg ym Mrasil fod 30 o bobl o wahanol wledydd wedi dioddef anafiadau, gyda 10 ohonynt yn cael eu cludo i'r ysbyty.
Daw'r digwyddiad ychydig wythnosau wedi i deithiwr 73 oed o Brydain farw a dwsinau gael eu hanafu ar daith awyren o Heathrow i Singapore fis Mai.
Y gred yw bod Geoff Kitchen wedi cael trawiad ar y galon.
Roedd yn rhaid i'r awyren lanio ar frys yng Ngwlad Thai.
Fe gafodd mwy na 100 o bobl oedd ar yr awyren eu trin mewn ysbyty yn Bangkok wedi'r digwyddiad.
Mewn datganiad, dywedodd Singapore Airlines eu bod yn cynnig talu $10,000 (£7,800) i'r rhai a gafodd anafiadau llai difrifol.
I'r rhai a gafodd rhai mwy difrifol, dywedodd y cwmni hedfan eu bod yn "darparu taliad o $25,000 i helpu gyda'u hanghenion brys".
Yn ddiweddarach fis Mai, cafodd 12 o deithwyr eu hanafu ar hediad rhwng Doha yn Qatar, a Dulyn, wedi i'r awyren daro tyrfedd.