12 o bobl wedi eu hanafu ar hediad i Ddulyn wedi i'r awyren daro tyrfedd
Mae 12 o bobl wedi dioddef anafiadau ar hediad i Ddulyn wedi i’r awyren daro tyrfedd (turbulence).
Fe wnaeth yr awyren Boeing 787-9 dreamliner daro’r tyrfedd wrth hedfan dros Dwrci, ar hediad rhwng Doha yn Qatar, a Dulyn.
Fe laniodd yr hediad Qatar Airways ym Maes Awyr Dulyn, gyda’r gwasanaethau brys yn bresennol, gan gynnwys swyddogion heddlu’r maes awyr a swyddogion y gwasanaeth tân ac achub.
Cafodd chwe theithiwr a chwe aelod o griw’r awyren eu hanafu.
Dywedodd llefarydd ar ran gwmni DAA, sydd yn gweithredu Maes Awyr Dulyn: “Mae’r tîm ym Maes Awyr Dulyn yn parhau i roi cymorth llawn i deithwyr a staff y cwmni hedfan.”
Daw wedi i ddyn 73 oed o Brydain farw ar hediad rhwng Heathrow a Singapore yr wythnos hon, oedd wedi profi ‘tyrfedd difrifol.’
Cafodd dros 100 o bobl eu hanafu yn ogystal, gyda 20 o bobl wedi eu cludo i’r uned gofal dwys gydag anafiadau i’r asgwrn cefn.
Llun: Llun llyfrgell o Boeing 787-9 (Wotchit/Getty)