Rhybudd melyn am eira i ran helaeth o Gymru ddiwedd yr wythnos
Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai storm ddod ag 20cm o eira i rai rhannau o Gymru ddiwedd yr wythnos.
Bydd y rhybudd melyn am eira yn berthnasol i dalp helaeth o Gymru heblaw am ardaloedd arfordirol y gorllewin a'r gogledd.
Mae'r storm wedi’i henwi yn Storm Goretti gan Meteo France.
Bydd y rhybudd mewn grym rhwng 18.00 ddydd Iau a 12.00 ddydd Gwener.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai rhai ardaloedd gwledig gael eu hynysu o ganlyniad i’r storm.
Gallai'r storm arwain at golli cyflenwadau trydan a phroblemau wrth deithio hefyd.
“Mae'n debygol y bydd cyfnod o eira trwm yn datblygu dros dir uwch yn ne Cymru yn ddiweddarach ddydd Iau cyn i'r glaw droi'n eira dros rannau ehangach o Gymru a Lloegr yn ystod nos Iau,” meddai’r Swyddfa Dywydd.
“Mewn rhai ardaloedd, gall 5–10 cm o eira ddisgyn gyda'r potensial am hyd at 20 cm mewn rhai lleoliadau, yn enwedig dros dir uwch.
“Gall gwyntoedd cryfion arwain at rywfaint o eira'n symud. Yna bydd glaw ac eira'n clirio tua'r dwyrain yn ystod dydd Gwener.”