Apêl wedi i Gymro fynd ar goll yn ne ddwyrain Asia
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth wedi i ddyn o Sir Fynwy fynd ar goll wrth deithio yn ne ddwyrain Asia.
Nid oes unrhyw un wedi gweld Mark Counsell, sydd yn 31 oed ac yn dod o Bont-y-pŵl, ers galwad ffôn fideo rhwng 09.00 a 10.00 ar ddydd Iau 25 Rhagfyr.
Y gred yw ei fod yng Ngwlad Thai neu yn ardal Kuala Lumpur ym Malaysia.
Mae Heddlu Gwent yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am ei leoliad presennol i gysylltu â nhw. Maen nhw hefyd yn apelio ar Mark i gysylltu gyda nhw.
Mae wedi ei ddisgrifio fel dyn gwyn 5'9" o daldra. Mae ganddo wallt brown byr gydag ochrau wedi'u torri a barf sydd yn frowngoch, sydd wedi tyfu'n hirach ar ei ên.
Roedd yn gwisgo crys-t Fred Perry lliw khaki y tro diwethaf iddo gael ei weld.
Mae Heddlu Gwent yn gofyn am unrhyw un sydd â gwybodaeth am ble y gallai Mark fod i gysylltu â nhw gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2600001644.