Achub cerddwr ci oedd wedi suddo i draeth yn y gogledd

Traeth Talacre

Mae Gwylwyr y Glannau a chriwiau tân wedi achub cerddwr ci a oedd wedi suddo i draeth yn y gogledd.

Roedd dau ffrind yn mynd â’u cŵn am dro ar draeth Talacre yn Sir y Fflint pan aethon nhw’n sownd, meddai Gwylwyr y Glannau y Rhyl.

“Roedd yn ymddangos fel tywod cadarn,” medden nhw. “Yn anffodus, roedd mwd meddal iawn o dan yr haen denau. 

“Aeth y ddau yn sownd, gydag un yn suddo’n ddyfnach na’r llall.”

Image
Talacre
Yr unigolyn yn cael ei achub

Fe wnaethon nhw ffonio 999, a phenderfynu eistedd i lawr yn hytrach na pharau i frwydro yn erbyn y mwd - y “penderfyniad iawn” meddai Gwylwyr y Glannau.

Cafodd Tîm Achub Gwylwyr y Glannau Ehyl a’r Fflint eu galw, gan eu bod yn arbenigo mewn achub pobl o fwd.

Gan ddefnyddio eu hesgidiau mwd a stretsier sled, fe wnaethon nhw groesi’r mwd yn ofalus i gyrraedd yr unigolyn oedd wedi suddo ddyfnaf.

Cafodd yr unigolyn ei ryddhau’n ddiogel o’r mwd a’i osod yn ddiogel ar y sled. 

Gyda chymorth gwych gan ddiffoddwyr tân Gorsaf Dân Prestatyn, fe wnaeth tîm Gwylwyr y Glannau dynnu’r sled mwd â rhaff yn ôl i ardal ddiogel o’r traeth.

Cafodd yr unigolyn asesiad llawn gan dîm Gwylwyr y Glannau a’r parafeddyg a oedd yn bresennol. 

“Rydyn ni’n falch iawn o ddweud nad oedd unrhyw broblemau eraill, ar wahân i’r ffaith ei fod wedi’i orchuddio â mwd, ac fe wnaeth gadw ei hwyliau da drwy’r cyfan,” meddai llefarydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.