Eira: Cannoedd o ysgolion ar gau eto ddydd Mawrth
Mae cannoedd o ysgolion ar gau yng Nghymru ddydd Mawrth am yr ail ddiwrnod yn olynol o ganlyniad i rew ac eira.
Daw wedi i fwy o eira syrthio yng Nghymru dros nos gan ychwanegu at y trwch a syrthiodd dros y penwythnos a dydd Llun, ac mae llawer o ffyrdd gwledig yn dal mewn cyflwr peryglus.
Mae rhybudd melyn am eira a rhew wedi bod mewn grym ers 12:00 ddydd Llun ar gyfer sawl rhan o Gymru, ac mae'n parhau mewn grym hyd at 11:00 ddydd Mawrth.
Bydd rhybudd tywydd am iâ mewn grym mewn rhannau o Gymru o hanner nos tan 10.00 bore ddydd Mercher.
Mae ysgolion yng Ngwynedd, Ynys Môn, Ceredigion Sir Gâr, Sir Benfro, Sir Ddinbych, Powys, Wrecsam, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr ymhlith y rheini sydd wedi cadarnhau eu bod ar gau o ganlyniad i'r tywydd garw ddydd Mawrth.
Maen nhw'n cynnwys Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon, Ysgol Tryfan ym Mangor, Ysgol Bro Teifi yn Llandysul, Ysgol Bro Pedr yn Llanbedr Pont Steffan, ac Ysgol Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin.
Mae modd dod o hyd i'r wybodaeth ddiweddaraf am yr ysgolion sydd ar gau drwy glicio ar dudalennau'r cynghorau yma:
Gwynedd: https://diogel.gwynedd.llyw.cymru/digwyddiadauargyfwng
Sir Gâr: https://ysgolionargau.sirgar.llyw.cymru
Ceredigion: https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/newyddion/2026/eira-ysgolion-ar-gau-yng-ngheredigion
Powys: https://cy.powys.gov.uk/ysgolionargau
Sir Benfro: https://www.sir-benfro.gov.uk/ysgolion-sydd-ar-gau
Sir Ddinbych: https://www.denbighshire.gov.uk/cy/addysg-ac-ysgolion/cau-ysgolion-mewn-argyfwng.aspx
Castell-nedd Port Talbot: https://www.npt.gov.uk/schools-and-learning/schools/emergency-school-closures/
Pen-y-bont ar Ogwr: https://www.bridgend.gov.uk/residents/schools-and-education/school-closures/
Wrecsam: https://www.wrecsam.gov.uk/school-status
Dywedodd Traffig Cymru fore dydd Mawrth bod yr A487 rhwng Corris a Cross Foxes ar gau i'r ddau gyfeiriad oherwydd bod car ar ei do.
Mae modd dod o hyd i'r wybodaeth ddiweddaraf am drafferthion ar y ffyrdd ar wefan Traffig Cymru yma: https://traffig.cymru/rhybuddion-traffig
Llun: Eglwys Sant Doged a'r Carneddau yn y cefndir gan Ysgol Llanddoged.