10 mlynedd o garchar i ddyn o Sir Gâr am droseddau rhyw yn erbyn plant

David Prothero

Mae dyn 39 oed o’r Tymbl, Sir Gaerfyrddin wedi cael ei garcharu am 10 mlynedd am gyflawni nifer o droseddau rhyw yn erbyn plant.

Roedd David Prothero wedi pledio’n euog i ddau achos o dreisio merch 13 oed, pedwar achos o gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol gyda merch o dan 18 oed, pedwar achos o ymosod yn rhywiol ar fenyw, ac achos o gam-drin plentyn drwy ymosod a churo.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Rebecca Thomas o Dîm Ymchwilio i Drais Sir Gaerfyrddin: "Roedd hwn yn achos sy’n peri pryder a oedd yn cynnwys dyn a wnaeth gamddefnyddio swydd o ymddiriedaeth yn erbyn dioddefwyr ifainc. 

"Ni ddylai neb, yn arbennig plentyn, ddioddef cam-drin mewn man lle maen nhw’n disgwyl teimlo’n ddiogel.

"Rhaid cydnabod dewrder y dioddefwyr yn yr achos hwn. Yn y pen draw, eu dewrder nhw i godi eu lleisiau sydd wedi rhoi David Prothero yn y carchar heddiw. Mae’r plant hyn yn glod iddyn nhw’u hunain a’u teuluoedd. 

"Os oes unrhyw un, waeth pa beth bynnag yw ei oed, yn canfod ei hun yn dioddef yn dawel, rwyf eisiau’ch annog i ddod ymlaen a siarad gyda ni.

"Ni fyddaf yn anghofio’r adeg pan ddywedodd un o’r dioddefwyr, 'Ni all fy rheoli i rhagor', wrth i Prothero bledio’n euog. Mae hyn yn ymwneud â rhyddid llawn cymaint ag y mae’n ymwneud â chyfiawnder."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.