Galwad ar Lywodraeth nesaf Cymru i greu polisi newydd i warchod ysgolion bach
Mae angen i Lywodraeth nesaf Cymru greu polisi newydd ar gyfer diogelu ysgolion bach a gwledig Cymru, yn ôl Cymdeithas yr Iaith.
Mae ymchwil gan raglen Newyddion S4C yn dangos i dros 100 o ysgolion bach gau dros y degawd diwethaf yng Nghymru.
Yn ôl un academydd, tra bod gwaith, tai a chyllid yn her, mae angen i awdurdodau lleol gynnig mwy o sicrwydd i rieni gyda chynlluniau hir dymor i ysgolion bach.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mater i awdurdodau lleol ydi dyfodol ysgolion ond mae nhw’n cefnogi cymunedau gwledig gydag "uchelgais i fuddsoddi."
Yn ôl Cais Rhyddid Gwybodaeth i Lywodraeth Cymru gan Newyddion S4C, caeodd 108 o ysgolion bach, sef ysgolion lle roedd llai na chant o blant ynddyn nhw, dros y degawd diwethaf yng Nghymru .
O'r rheini, caeodd 64 yn gyfan gwbl gyda 44 wedi cau drwy uno ag ysgol arall i ffurfio ysgol newydd.
Gyda nifer ohonyn nhw wedi eu crynhoi yn y siroedd lle mae’r Gymraeg ar ei chryfaf, mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar lywodraeth nesaf Cymru i ddiogelu ysgolion tebyg.
“Da ni’n creu problemau mawr, yn gymdeithasol bod ein cymunedau gwledig Cymraeg yn mynd yn gymunedau o hen bobl i ymddeol iddyn nhw ac yn wag o bobl ifanc,” meddai Ffred Ffransis o’r Gymdeithas.
“Ni’n creu problemau i’r Gymraeg gan bod ni’n lleihau capasiti gan bod ni’n lleihau y nifer o lefydd sydd ar gael mewn addysg Gymraeg a 'da ni’n creu problemau addysg.
“Ble mae’r ymchwil erbyn hyn i ddangos beth yw effaith cau ysgolion bach, ydi plant dal yn cael yr un profiad ag mewn ysgol ganolog ai pheidio?
“Mae angen ymchwilio mewn i hyn ac mae angen polisi newydd gan y llywodraeth newydd ym mis Mai.”
Un ysgol sy’n destun ymgynghoriad i gau ar hyn o bryd ydi Ysbyty Ifan yn Nyffryn Conwy.
Gydag 14 o blant mae’r Cyngor rŵan yn ystyried ei chau ond mae trigolion y pentref yn dweud bod angen ei diogelu.
“Fedrwch chi ddim rhoi pris ar rhywbeth felly”, meddai Dafydd Jones sy’n gyn ddisgybl ac yn gynghorydd cymuned yn Ysbyty Ifan.
“Byw mewn cymuned Cymraeg, symud plant, mi fydd yn ergyd drom ac unwaith gollwn ni be sydd ganddo ni, a sylweddoli be sydd ganddo ni, dyna ‘di’r cynghorau ddim yn sylwi”.
'Calon y pentref'
Yn ôl Awel Jones sy’n gadeirydd y llywodraethwyr, mae gan ddisgyblion yn Ysbyty Ifan “gymaint o dalentau.”
“Mae 'na gymaint o gyfleoedd a sylw - maen nhw’n cael profiadau arbennig iawn.”
Ategu hynny wnaeth Glyn Roberts sydd â chenedlaethau o’i deulu wedi’u haddysgu yn yr ysgol.
“Mewn ffordd imi, yr ysgol yma ydi cnewyllyn a chalon y pentref,” meddai.
“Yr unig beth mae cynghorau ac ysgolion yn gwneud ydi cau ysgolion bach ac wrth wneud hynny, yr unig beth mae nhw’n ymwneud â ydi’r symptomau.”
Yn ôl Cyngor Conwy, gan bod yr ymgynghoriad yn dal ar waith, ni fyddai'n briodol gwneud sylw.
Ychwanegodd llefarydd ar ran y cyngor eu bod yn annog unrhyw un sydd â barn i gysylltu.
Mae’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones yn gweithio ar brosiect Bro sy’n arolwg sosi-ieithyddol o gymunedau Cymraeg.
Genedigaethau
Tra bod cyllidebau yn un rheswm pam bod cynghorau yn cau ysgolion bach, mae hi'n dweud fod nifer y genedigaethau hefyd yn ffactor.
“Dros gyfnod o ugain mlynedd, mae tua 6% o ostyngiad wedi bod yn y boblogaeth plant yng Nghymru,” meddai.
“Ond mae’r canran yna llawer iawn yn uwch yn ardaloedd Môn, Gwynedd, Ceredigion, Penfro a rhannau o Bowys, Caerfyrddin a Chonwy.”
Mae gwaith ymchwil hefyd yn awgrymu bod 81% o bobl mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru yn teimlo y byddai’n rhaid gadael eu cynefin er mwyn dod o hyd i waith a 48% yn dweud y byddai’n rhaid gadael er mwyn cael tŷ fforddiadwy.
Mae’r Athro Gruffydd Jones hefyd yn dweud bod angen strategaeth mwy hir dymor gan gynghorau sir.
“Wrth i bobl wneud penderfyniadau am addysg eu plant, mae nhw eisiau sicrwydd o be sy’n mynd i ddigwydd i addysg eu plant, nid yn unig yn ystod oes y plentyn cyntaf yn yr ysgol gynradd ond y plant eraill ddaw wedyn.
“Felly mae cael sicrwydd o be sy’n mynd i ddigwydd dros 10-15 mlynedd yn rhywbeth sylfaenol iawn i rhan fwyaf o bobl.”
Dros bymtheg mlynedd yn ôl mi oedd Dafydd Iwan yn aelod o gabinet Cyngor Gwynedd ac mi bleidleisiodd o blaid cau rhai ysgolion bach.
Mae’n dweud bod angen i gynghorau ledled Cymru edrych eto ar y gwersi dylai bod wedi’u dysgu wrth gau ysgolion bach.
“Be sy’n bwysig ydi’r addysg... ydi’r addysg yr addysg gorau posib, mor Gymraeg ag sy’n bosib ac ydi’r dewisiadau i gyd ar gael i’r plant,” meddai.
“Yn y pendraw un ystyriaeth y dylai bob awdurdod addysg ystyried ydi – yw hi'n iawn gwario £10,000 y pen mewn ysgolion llai a £2,000 y pen ddudwn ni mewn ysgolion mwy.
“Dylen ni edrych ar y newidiadau sydd wedi digwydd a gweld ydy nhw’n gweithio.”
Wrth ymateb i bryderon Cymdeithas yr Iaith, mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod llunio polisi ar gyfer y tymor senedd nesaf yn fater i’r pleidiau gwleidyddol.
“Rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein cymunedau gwledig i ffynnu yn y dyfodol, gan osod ein blaenoriaethau ar gyfer economi gryfach. Mae hyn yn cynnwys uchelgais am fuddsoddiad a thwf i sicrhau swyddi uchel eu hansawdd sy’n gofyn am weithwyr medrus ym mhob rhan o Gymru,” meddai llefarydd.
“Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am gynllunio lleoedd ysgol, gan sicrhau bod digon o ysgolion yn eu hardal. Mae Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 hefyd yn nodi disgwyliadau clir ar awdurdodau lleol o ran cefnogi pob disgybl ar draws pob lleoliad addysgol i ddod yn siaradwyr Cymraeg annibynnol.”
Prif lun: Awel Jones, Dafydd Jones a Glyn Roberts.