'Pan o'n i'n ficer, do'n i byth yn meddwl byswn i’n mynd i Dde Swdan'

'Pan o'n i'n ficer, do'n i byth yn meddwl byswn i’n mynd i Dde Swdan'

Wrth ddychwelyd i Esgobaeth Bangor yn y gwanwyn eleni, mae’r Parchedig Nia Catrin Williams yn adlewyrchu ar ddegawd o wasanaethu fel caplan yn y Lluoedd Arfog ar draws y byd.

A hithau wedi gweithio yn Esgobaeth Bangor ac Esgobaeth Llanelwy am bron i 20 mlynedd, mae'r Parchedig Williams yn wyneb cyfarwydd i nifer o addolwyr ar draws y gogledd - ond roedd ganddi ddiddordeb mewn ymuno gyda'r Lluoedd Arfog ers ei phlentyndod.

Yn 45 oed, penderfynodd wireddu ei breuddwyd a hyfforddi fel caplan, gan dreulio tri mis yn Academi Filwrol Frenhinol Sandhurst yn Surrey.

"Oedd ‘na tua 10 o ferched ar y cwrs ac o’n i’n hyn na nhw gyd o ryw 20 mlynedd," meddai wrth Newyddion S4C.

"Oeddan nhw’n galw fi’n Mam i Oll ar y cwrs, achos mi oedd y cwrs yn gorfforol yn anodd iawn, ag oedd rhaid i chi fod reit ffit. 

"Do’n i ddim mor ffit â rhywun hanner fy oed i, ac mi oedd o’n struggle.

"Ond mi nes i neud o’n diwedd, ac o’n i’n falch iawn."

'Cristnogaeth mewn gwahanol wedd'

Mae caplan yn gyfrifol am ddarparu gofal ysbrydol ac emosiynol i bobl o bob ffydd neu ddim ffydd o gwbl.

Ar ôl cwblhau'r hyfforddiant yn Sandhurst, fe aeth ymlaen i Efrog am bedair blynedd lle cafodd y cyfle i weithio gyda’r Cenhedloedd Unedig. Fel rhan o'r swydd honno, fe dreuliodd chwe mis yn Ne Swdan lle’r oedd yn gofalu am y fyddin yno.

"Oeddan ni’n helpu’r Cenhedloedd Unedig i adeiladu ysbytai, ac yn rhan o hynny, roedd yn rhaid i ni fyw yn ochr y ffoaduriaid," meddai.

Yn ôl y Parchedig Williams, roedd tua 40,000 o bobl yn byw yn y gwersyll, gyda 30 o eglwysi a dau fosg ar y safle.

Dywedodd y byddai’n arfer mynd i'r eglwys gan fynd â rhai o’r milwyr efo hi.

"Roedd y ffoaduriaid yn dlawd ofnadwy, dim byd i ddweud y gwir, ond eto oeddach chi’n mynd i ganol nhw ar ddydd Sul ac mi oedd y lle yn orlawn," meddai.

"Mi oeddan nhw’n mor hapus ag oedd hynny’n wbath i ddysgu ohono fo."

Image
Eglwys yn Ne Sudan
Un o’r eglwysi yn y gwersyll ffoaduriaid yn Ne Swdan

Yr hyn sy'n aros yn y cof, meddai, ydi'r profiad o weld gwahanol lwythi o bobl y wlad yn addoli gyda'i gilydd.

"Oeddan nhw wedi bod yn cwffio’i gilydd blwyddyn ynghynt, ond mi oeddan nhw’n addoli efo’i gilydd - ac oedd hynny’n wefreiddiol i fi, i gael gweld Cristnogaeth mewn gwahanol wedd," meddai.

Daeth cyfle hefyd i'r Parchedig Williams gymryd rhan yn Niwrnod Rhyngwladol y Menywod, sef digwyddiad blynyddol sy'n cael ei gefnogi gan Genhadaeth y Cenhedloedd Unedig yn Ne Swdan i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cydraddoldeb menywod.

"Oedd 'na lot o dreisio menywod a merched yn rhywiol, gyda chanran uchel iawn yn dioddef, felly oeddan ni’n dysgu nhw sut i amddiffyn eu hunain," meddai.

"Ond mi oeddan ni hefyd yn mynd mewn i’r ysgol i ddysgu’r bechgyn a’r dynion bod gan ferched rôl - ddim jyst i weini neu i fagu plant, ond bod nhw i fod i gael eu parchu a bod nhw’n gallu cael gyrfa hefyd."

Ychwanegodd: "Pan o’n i’n ficar blynyddoedd yn ôl, o'n i byth yn meddwl byswn i’n diweddu fyny yn Ne Swdan a bod yn rhan o wbath ffantastig fel 'na. 

"Dwi'n meddwl mai hwnna ydi’r profiad gorau dwi 'di gael o fod yn y Lluoedd Arfog."

Image
Y Parchedig Nia yn Ne Sudan
Y Parchedig Williams gyda bechgyn yn Ne Swdan ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod

A hithau wedi bod oddi cartref am ddegawd, dywedodd y Parchedig Williams ei bod yn teimlo'r dynfa i ddod yn ôl i Gymru.

"Roedd yr hiraeth yna fel mae o i ni Cymry, ac o'n i'n teimlo bo' fi isho dod i ogledd-orllewin Cymru yn benodol," meddai.

"Fel rhywun sy’n siarad Cymraeg ac yn dalld y diwylliant ac ysbrydolwydd y Cymry, o'n i'n teimlo bod o’n bwysig i fi ddod nôl i ardal lle o’n i’n medru iwsho fy sgiliau a’n sgiliau iaith a’m mhrofiad."

Yn ei rôl newydd fel Arweinydd Ardal Gweinidogaeth Beuno Sant Uwch Gwyrfai, bydd y Parchedig Williams yn gwasanaethu chwe eglwys: Penygroes, Llanllyfni, Clynnog Fawr, Llanaelhaearn, Llandwrog a Llanwnda. 

Er ei bod yn cydnabod bod "lot o waith da yn mynd ymlaen yn barod", mae hi’n dweud bod angen ystyried ffyrdd gwahanol o ddarparu gwasanaethau.

"Dwi’n gobeithio fydd llawer iawn o fy mhrofiadau i dros y 10 mlynedd diwethaf - dros y byd ac adra - yn helpu i ddod â phersbectif gwahanol i’r eglwysi, ffordd 'da ni’n addoli, persbectif gwahanol ar yr ysgrythur a bod yn rhan o’r gymuned," meddai.

"Cerdded gyda pobl sydd ganddo ni yn ein heglwysi yn Beuno Sant Uwch Gwyrfai - jyst bod yn offeiriad, y person."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.