Bardd Plant Cymru yn beirniadu diffyg buddsoddiad mewn digwyddiadau Cymraeg
Mae Bardd Plant Cymru, Sion Tomos Owen, wedi beirniadu Cyngor Rhondda Cynon Taf, gan honni nad ydyn nhw’n buddsoddi digon mewn digwyddiadau a gweithgareddau Cymraeg yn y sir.
Dywedodd Sion Tomos Owen wrth Newyddion S4C ei fod o’r farn bod y cyngor yn “dewis peidio” ag ariannu gwyliau cerddorol gan gyfeirio at “Parti Ponty” ym Mhontypridd yn benodol sydd ddim yn cael ei gynnal eleni, gan ddisgrifio’r sefyllfa fel un “bonkers a siomedig.”
Mae’r cyngor wedi ymateb drwy ddweud eu bod nhw “wedi ymrwymo’n llwyr i hyrwyddo’r Gymraeg.”
Daw sylwadau Sion Tomos Owen wrth i Ŵyl Mabon, gŵyl gerddoriaeth Gymraeg rhad ac am ddim, gael ei chynnal yn nhafarn y Lion yn Nhreorci, ddydd Sadwrn.
Fe fydd Sion Tomos Owen yn cynnal gweithdy yn ei rôl fel Bardd Plant Cymru, yn ogystal â lansio llyfr ei ffrind, Nerys Bowen, sy’n cael ei ryddhau wedi iddi farw y llynedd.
Mae’n beirniadu’r cyngor wedi iddyn nhw ddweud eu bod nhw’n bwriadu rhoi “mwy o fuddsoddiad yn y Gymraeg ar ôl yr Eisteddfod.”
“Mae'n rybish. Ma nhw'n cymryd y clod am yr Eisteddfod yn dod a ddim yn buddsoddi mewn unrhyw beth arall fel maen nhw wastad di neud.
“Fi'm yn gwbod beth yw e. Pethe Cymraeg, dy’n nhw ddim eisiau rhoi arian i fe.
“Mae na ddigon o arian i roi parêd i'r Lluoedd Arfog yn Parti Ponty, ma digon o arian i dod a’r 90s Reunion Party i Pontypridd, ond does dim arian i gael bandiau Cymraeg i Bontypridd.”
“Dyw e ddim yn rywbeth maen nhw methu neud. Ma nhw’n dewis peidio neud e.”
Fe wnaeth hefyd dynnu sylw at lwyddiant Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym Mhontypridd yn 2024, a oedd yn un o’r rhai mwyaf llwyddiannus o ran nifer yr ymwelwyr.
“Ma nhw dal ddim yn defnyddio hwnna fel enghraifft i ddangos bod angen mwy (o ddigwyddiadau Cymraeg) yn Rhondda Cynon Taf sydd yn bonkers ac yn siomedig,” meddai.
Mewn ymateb i sylwadau'r bardd plant, dywedodd y cyngor eu bod nhw’n cynnig “ystod eang o raglenni Cymraeg” ar draws eu theatrau a’u hatyniadau diwylliannol.
Dywedodd llefarydd hefyd fod y cyngor yn cyflogi swyddog strategaeth penodol fel rhan o waddol Eisteddfod 2024, er mwyn cefnogi’r gwaith o ddarparu gweithgareddau Cymraeg gan gymunedau lleol.
“Dros nifer o flynyddoedd rydym wedi cyfrannu adnoddau, gan gynnwys cyllid uniongyrchol, tuag at amrywiaeth o ddigwyddiadau sy’n cael eu trefnu gan ein partneriaid, gan gynnwys Parti Ponty a Parti Pwll Ponty.
“Yn ogystal, yn ddiweddar fe wnaethom gynnig pecyn cyllid tair blynedd i fudiad Cymraeg yn y trydydd sector i gefnogi ei raglen o ddigwyddiadau ei hun.
“Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i hyrwyddo’r Gymraeg. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda phartneriaid i ddenu digwyddiad Cymraeg mawr i’r Fwrdeistref Sirol yn y dyfodol agos, gyda’r nod o adeiladu ymhellach ar waddol ac effaith barhaus a pharhaol yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2024.”
Gŵyl Mabon
Cafodd Gŵyl Mabon ei chynnal am y tro cyntaf yn 2024 yn dilyn lansiad Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf yn nhafarn y Lion.
Eleni fydd y drydedd tro i’r ŵyl gael ei chynnal, gyda bandiau gan gynnwys Bwncath, Dadleoli ac Yws Gwynedd yn rhan o’r arlwy.
Mae Kelly Hanney yn un o drefnwyr yr ŵyl.
Dywedodd hi fod yr ŵyl wedi’i sefydlu oherwydd bod pobl y Rhondda yn aml yn gorfod teithio allan o’u hardal er mwyn mynd i ddigwyddiadau neu wyliau Cymraeg.
“Dyna oedd y bwriad rili yw cael gŵyl leol fel bod pobl sy'n siarad Cymraeg yn yr ardal ddim wastad gorfod mynd mas o'u hardal i mwynhau rhywbeth trwy gyfrwng y Gymraeg,” meddai.
Fel rhan o’r ŵyl eleni, fe fydd dathliad i nodi 75 mlynedd ers agor yr ysgol Gymraeg gyntaf yn y sir, sef Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen.
Yn fuan wedyn, agorwyd Ysgol Llwyncelyn, ac fe fydd disgyblion y ddwy ysgol yn canu yn ystod yr ŵyl.
Dywedodd Ms Hanney fod yr ŵyl wedi dod â phobl at ei gilydd oedd â’r un awydd i weithio dros y Gymraeg yn yr ardal, ac i roi cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r iaith y tu allan i oriau ysgol.
“Roedd hynny’n rhywbeth oedd ar goll i bobl fel fi, achos dwi’n dod o deulu di-Gymraeg,” meddai.
“Es i i ysgol Gymraeg, ond wedyn pan oeddwn i’n mynd adref doedd dim llawer o lefydd i ddefnyddio’r Gymraeg ar ôl tri o’r gloch y prynhawn.
“Felly o hynny daeth sefydlu côr, sefydlu’r Eisteddfod y Rhondda, ac wedyn Gŵyl Mabon, sy’n trio rhoi cyfleoedd i bobl fyw drwy’r Gymraeg, yn hytrach na bod yr iaith jyst yn rhywbeth i’w wneud rhwng naw a thri o’r gloch bob dydd.”